Skip to main content

Natur ddynol wedi’i datgelu: Genesis 3 (3 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 3

Mae dwy bennod gyntaf y Beibl yn creu darlun o greadigaeth Duw mewn cytgord: mae pobl, creaduriaid byw a’r byd naturiol i gyd yn cyd-fynd yn berffaith â’i gilydd. Roedd chwedlau creu’r byd amser yr ysgrifennwyd y straeon hyn yn disgrifio byd a anwyd o drais a chasineb. Na, meddai Genesis: ‘Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda’.

Genesis 3 yw lle mae pethau’n dechrau mynd o’i le i ddynoliaeth. Mae’n portreadu gwirioneddau tragwyddol am y natur ddynol. Rydym yn cael ein tynnu at ffrwythau gwaharddedig: mae rhywbeth deniadol ynglŷn â chamu dros y ffiniau a gwneud yr hyn rydym yn gwybod na ddylem ei wneud. Pan mae Adda ac Efa yn anufudd i Dduw, mae ganddynt gywilydd o bwy ydynt. Maent yn ceisio osgoi cyfrifoldeb – mae Adda yn beio Efa, ac mae Efa yn beio’r sarff. Mae’r cytgord rhyngddynt wedi torri, ac felly hefyd gytgord natur: mae marwolaeth yn mynd i mewn i’r byd naturiol wrth i Dduw wneud dillad ar eu cyfer allan o groen anifeiliaid. Daw bywyd yn llawer anoddach ac yn llawer mwy poenus.

Ysgrifennodd y diwinydd a’r athronydd Simone Weil: 'Imaginary evil is romantic and varied; real evil is gloomy, monotonous, barren, boring. Imaginary good is boring; real good is always new, marvellous, intoxicating.'

Ni adawyd Adda ac Efa, ac mae tapestri cyfoethog y Beibl yn cael ei orchuddio â gras. Ond rhybudd yw Genesis 3: mae gan bechod ganlyniadau, a phan fyddwn yn gwneud drwg byddwn yn difaru.

Gweddi

Gweddi

Duw, mae’n ddrwg gen i am yr amseroedd rydw i wedi gwneud y peth anghywir oherwydd rydw i wedi methu ag ymddiried mai ti sy’n gwybod orau. Maddau imi a helpa fi i wneud yn well.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible