Skip to main content

Pŵer drygioni: Genesis 4 (4 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 4

Yn Genesis 4, rydym yn dod wyneb yn wyneb â rhai o reddfau tywyllaf bodau dynol. Mae dau fab Adda ac Efa yn offrymu aberthau; derbynnir aberthau anifeiliaid Abel, ond ni dderbynnir offrymau grawn Cain. Nid oes unrhyw arwydd pam: dyna sut y mae. Ond dicter yw ymateb Cain – ac mae geiriau Duw iddo yn cynnig mewnwelediad dwys i natur y demtasiwn. Mae’n herio Cain i wneud ‘beth sy’n iawn’. Darlunnir pechod fel ‘anifail yn llechu wrth y drws’ (adnod 7); mae fel anifail gwyllt y mae’n rhaid dofi neu bydd yn ei ddinistrio. Yn hytrach, mae pechod yn meistroli Cain.

Mae’r darlun yma o natur ddynol fel maes brwydr, gyda phechod fel y gelyn. Pan ildiwn i ddicter, drwgdeimlad neu falchder rydym yn agor y drws i ddrygioni, ac mae drygioni yn gryfach nag yr ydym yn ei feddwl. Efallai y byddwn yn meddwl y gallwn feistroli’r greddfau hyn, ond pan rydym yn rhoi lle iddynt yn ein calonnau rydym wedi methu yn barod.

Mae cwestiwn Cain, ‘Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?’ yn rhethregol, gan dybio mai’r ateb yw ‘Na’. Mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gyfrifol am ein gilydd; wedi ei lethu gan bechod, mae Cain yn methu â gweld hyn.

Mae Duw yn dweud wrth Cain fod gwaed Abel yn ‘gweiddi arna i o'r pridd’ (adnod 10). Mae’n gweiddi am ddialedd, ac mae Cain yn cael ei wahardd. Ond mae Hebreaid 12.24 yn siarad am waed Iesu ‘wedi'i daenellu – y gwaed sy'n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel’. Mae gwaed Abel yn gweiddi am ddialedd; mae gwaed Crist yn gwaeddi am drugaredd a maddeuant.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fod yn wyliadwrus o fy nhymer. Helpa fi i gadw llygad ar fy nheimladau, a gwared fi rhag drwg.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible