No themes applied yet
Y dyn aʼi wraig yn pechu
1Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wediʼu creu. A dymaʼr neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” 2“Na,” meddaiʼr wraig, “dŷn niʼn cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. 3Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” 4Ond dymaʼr neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. 5Mae Duw yn gwybod y byddwch chiʼn gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chiʼn gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”
6Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda iʼw fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hiʼn cymryd peth oʼi ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth iʼw gŵr oedd gyda hi, a dyma feʼn bwyta hefyd. 7Yn sydyn roedden nhwʼn gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhwʼn noeth. Felly dyma nhwʼn rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhwʼu hunain.
8Yna dyma nhwʼn clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwyʼr ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dymaʼr dyn aʼi wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. 9Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?” 10Atebodd y dyn, “Rôn iʼn clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod iʼn noeth. Felly dyma fiʼn cuddio.” 11“Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod diʼn noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” 12Ac meddaiʼr dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i fod gyda mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fiʼn ei fwyta.” 13Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw iʼr wraig, “Be tiʼn feddwl tiʼn wneud?” A dymaʼr wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
Duw yn cyhoeddiʼr farn
14Dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr:
“Melltith arnat ti am wneud hyn!
Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.
Byddiʼn llusgo o gwmpas ar dy fol
ac yn llyfuʼr llwch drwy dy fywyd.
15Byddi di aʼr wraig yn elynion.
Bydd dy had di aʼi had hi bob amser yn elynion.
Bydd eʼn sathru dy ben di,
a byddi diʼn taro ei sawdl e.”
16Yna dyma feʼn dweud wrth y wraig:
“Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti;
byddiʼn diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn.
Byddi di eisiau dy ŵr,
ond bydd e fel meistr arnat ti.”
17Wedyn dyma feʼn dweud wrth Adda:
“Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig
a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani,
‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’
Felly maeʼr ddaear wediʼi melltithio o dy achos di.
Bydd rhaid i ti weithioʼn galed i gael bwyd bob amser.
18Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir,
a byddiʼn bwytaʼr cnydau syʼn tyfu yn y caeau.
19Bydd rhaid i ti weithioʼn galed a chwysu i gael bwyd i fyw,
hyd nes i ti farw a mynd yn ôl iʼr pridd.
Dyna o lle y daethost ti.
Pridd wyt ti, a byddiʼn mynd yn ôl iʼr pridd.”
20Dymaʼr dyn yn rhoiʼr enw Efa3:20 Ystyr Efa yn Hebraeg ydy ‘yr un fyw’ neu ‘yr un syʼn rhoi bywyd’. iʼw wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.
21Wedyn dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda aʼi wraig eu gwisgo.
22A dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden syʼn rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.” 23Felly dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan oʼr ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono. 24Pan gafodd y dyn ei daflu allan oʼr ardd, gosododd Duw gerwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo, i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden syʼn rhoi bywyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015