No themes applied yet
Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod
1Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.
2Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. 3Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod aʼi wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dynaʼr diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.
Gardd Eden
4Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu:
Pan wnaeth Duw y bydysawd, 5doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. 6Ond roedd dŵr yn codi oʼr ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.
7Dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn oʼr pridd. Wedyn chwythodd iʼw ffroenau yr anadl syʼn rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. 8Yna dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tuaʼr dwyrain, yn Eden, a rhoiʼr dyn roedd wediʼi siapio yno. 9Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu oʼr tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda iʼw bwyta.
Yng nghanol yr ardd roedd y goeden syʼn rhoi bywyd aʼr goeden syʼn rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.
10Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrioʼr ardd. Wedyn roedd yn rhannuʼn bedair cangen. 11Pison ydy enw un. Mae hiʼn llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur 12– aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. 13Gihon ydy enwʼr ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. 14Tigris ydy enwʼr drydedd afon. Mae hiʼn llifo iʼr dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enwʼr bedwaredd afon.
15Dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn aʼi osod yn yr ardd yn Eden, iʼw thrin hi a gofalu amdani. 16A dyma feʼn rhoi gorchymyn iʼr dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, 17ond paid bwyta ffrwyth y goeden syʼn rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddiʼn siŵr o farw.”
18Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da iʼr dyn fod ar ei ben ei hun. Dw iʼn mynd i wneud cymar iddo iʼw gynnal.” 19A dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar oʼr pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddaiʼn eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. 20Rhoddodd enwau iʼr anifeiliaid, iʼr adar, ac iʼr bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo iʼw gynnal.
21Felly dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn gwneud iʼr dyn gysguʼn drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. 22Wedyn dymaʼr ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan oʼr darn oedd wediʼi gymryd oʼr dyn, a dod â hi at y dyn. 23A dymaʼr dyn yn dweud,
“Oʼr diwedd! Un sydd yr un fath â fi!
Asgwrn oʼm hesgyrn, a chnawd oʼm cnawd.
‘Dynes’ fydd yr enw arni,
am ei bod wediʼi chymryd allan o ddyn.”
24Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad aʼi fam ac yn cael ei uno âʼi wraig. Byddan nhwʼn dod yn uned deuluol newydd.
25Roedd y dyn aʼi wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015