No themes applied yet
Hanes Creu y Byd
1Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd aʼr ddaear. 2Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hiʼn hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. 3A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. 4Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanuʼr golau oddi wrth y tywyllwch. 5Rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ iʼr golau aʼr enw ‘nos’ iʼr tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.
6Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanuʼr dŵr yn ddau.” 7A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanuʼr dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. 8Rhoddodd Duw yr enw ‘awyr’ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.
9Dwedodd Duw, “Dw i eisiau iʼr dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod iʼr golwg.” A dyna ddigwyddodd. 10Rhoddodd Duw yr enw ‘tir’ iʼr ddaear, a ‘moroedd’ iʼr dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
11Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu oʼr tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy oʼr planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd. 12Roedd y tir wediʼi orchuddio â glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, aʼu hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, 13ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod.
14Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanuʼr dydd aʼr nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau aʼr blynyddoedd. 15Byddan nhwʼn goleuoʼr ddaear oʼr awyr.” A dyna ddigwyddodd. 16Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul aʼr lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoliʼr dydd, aʼr golau lleia, sef y lleuad, i reoliʼr nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd. 17Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuoʼr ddaear, 18i reoli dydd a nos, ac i wahanuʼr golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, 19ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.
20Dwedodd Duw, “Dw i eisiau iʼr dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” 21Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, aʼr holl bethau byw eraill sydd ynddo, aʼr holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. 22A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chiʼn llenwiʼr dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” 23Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod.
24Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwiʼr ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. 25Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
26Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon niʼn hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri syʼn gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan aʼr holl greaduriaid a phryfed syʼn byw arni.”
27Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.
Yn ddelw ohonoʼi hun y creodd nhw.
Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.
28A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar syʼn hedfan yn yr awyr, aʼr holl greaduriaid syʼn byw ar y ddaear.” 29Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoiʼr planhigion sydd â hadau aʼr ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. 30A dw i wedi rhoiʼr holl blanhigion yn fwyd iʼr bywyd gwyllt aʼr adar aʼr holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. 31Edrychodd Duw ar bopeth roedd wediʼi wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015