No themes applied yet
Cain yn lladd Abel
1Cysgodd Adda gydaʼi wraig Efa, a dyma hiʼn beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.” 2Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel.
Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. 3Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir iʼw roi yn offrwm iʼr ARGLWYDD. 4Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoiʼr rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel aʼi offrwm yn plesioʼr ARGLWYDD, 5ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain aʼi offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltioʼn lân. Roedd iʼw weld ar ei wyneb! 6Dymaʼr ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydyʼn iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? 7Os gwnei di beth syʼn iawn bydd pethauʼn gwella. Ond os na wnei di beth syʼn iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”
8Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.”4:8 Yn ôl y Fersiynau. Hebraeg heb “Gad … gwlad.”. Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel aʼi ladd. 9Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” 10A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wediʼi wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i oʼr pridd. 11Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. 12Byddiʼn ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddiʼn crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”
13Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Maeʼr gosb yn ormod i mi ei chymryd! 14Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd oʼr tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda iʼn crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag syʼn dod o hyd i mi yn fy lladd.”
15Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag syʼn lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dymaʼr ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddaiʼn cael ei ladd gan bwy bynnag fyddaiʼn dod o hyd iddo. 16Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod4:16 Nod Enw Hebraeg syʼn golygu ‘crwydro’. iʼr dwyrain o Eden.
Disgynyddion Cain
17Cysgodd Cain gydaʼi wraig, a dyma hiʼn beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal iʼw amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‘Enoch’ ar ôl ei fab. 18Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech.
19Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddoʼi hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. 20Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. 21Roedd ganddo frawd oʼr enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganuʼr delyn aʼr ffliwt. 22Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer oʼr enw Naamâ.
23Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd:
“Ada a Sila, gwrandwch arna i!
Wragedd Lamech, sylwch beth dw iʼn ddweud:
Byddwn iʼn lladd dyn am fy anafu i,
neu blentyn am fy nharo i.
24Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth,
bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”
25Cysgodd Adda gydaʼi wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi 4:25 Maeʼr gair Hebraeg am ‘rhoi’ yn debyg iʼr enw Seth. plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”
26Cafodd Seth fab, aʼi alw yn Enosh. Dyna pryd y dechreuodd pobl addoliʼr ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015