Skip to main content

Gardd Eden: Genesis 2.1–25 (2 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 2.1–25

Mae ail bennod Genesis yn stori greadigaeth wahanol, sy’n cyd-fynd â'r gyntaf. Mae hon yn canolbwyntio nid ar bensaernïaeth fawreddog y bydysawd, ond ar y byd dynol. Mae’r dyn cyntaf wedi’i ffurfio o lwch y ddaear: mae o’r ddaear, fel popeth arall. Ond mae’n fwy na mamal arall; ohono ef yn unig ddywedir bod Duw wedi chwythu ‘i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw’ (adnod 7). Mae Efa yn rhannu yn ei natur. Ysgrifennodd y sylwebydd Piwritanaidd Mathew Henry, geiriau oedd o flaen eu hamser: 'The woman was made of a rib out of the side of Adam; not made out of his head to rule over him, nor out of his feet to be trampled upon by him, but out of his side to be equal with him, under his arm to be protected, and near his heart to be beloved.'

Mae yna goed yn yr ardd, un yn rhoi bywyd ac un yn rhoi gwybodaeth am dda a drwg. Mae’r afon sy’n darparu dŵr i Eden yn rhannu’n bedair, gan ddyfrio holl fyd dynol yr Israeliaid a adroddodd straeon Genesis gyntaf. Hynny yw, mae’r hyn sy’n digwydd yn Eden a’r dewisiadau a wneir yno yn llifo allan i fywydau pawb. Nid stori dau berson yn unig yw hon; ein stori ni yw hi hefyd. Fe’n gwnaethpwyd gan Dduw i fyw mewn cytgord ag ef, gyda’n gilydd, a gyda’r byd hardd a wnaeth.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am fy nghreu ac anadlu bywyd i mewn i mi. Helpa fi i ddod o hyd i’m lle yn y byd, ac i fod y person rwyt yn bwriadu i mi fod.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible