Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Wrth i newyn wthio Isaac allan o'r tir yr oedd yn ei garu, rydym yn mynd i ddau naratif byr sy'n teimlo'n rhyfedd gyfarwydd. Y cyntaf yw addewid Duw i Isaac. Mae Isaac yn clywed Duw drosto'i hun, gan dderbyn addewid tebyg i addewid ei dad - sicrwydd bod Duw gydag ef ac y ‘bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr' (adnod 4). Mae hyn yn cadarnhau Isaac fel y disgynnydd haeddiannol a'i linach yw’r un y bydd Duw yn cyflawni ei addewid i Abraham drwyddo. Ac mae'n golygu nad yw Isaac yn byw ar gryfder addewid ei dad yn unig, ond mae ganddo sicrwydd o ddibenion Duw yn ei fywyd ei hun.
Rydym yn mynd yn syth o'r addewid i mewn i stori gyfarwydd arall. Wrth i Isaac symud i Gerar, gan fyw fel ‘dieithryn’ o dan deyrnasiad y Brenin Abimelech, mae Isaac yn dweud mai ei wraig yw ei chwaer yn union fel y gwnaeth ei dad. Yn wyneb ofn marwolaeth, mae'n gweithredu yn yr un modd ac yn cymryd yr un camau gan obeithio achub ei groen ei hun.
Mae hanes yn ailadrodd ei hun. Pa mor bell allwch chi weld adlewyrchiad o'ch rhieni neu'ch profiadau yn y gorffennol o ran sut rydych chi'n trin sefyllfaoedd heddiw? Beth ydych chi wedi'i ddysgu a'i etifeddu, da a drwg?
Duw, diolch am yr holl dda rydw i wedi'i etifeddu gan fy rhieni a'm magwraeth. Bendithia a thyfa’r pethau hynny ynof i. Cyflwynaf ger dy fron yr arferion gwael, y gwersi a'r ymatebion rydw i wedi'u dysgu gan y rhai sydd wedi fy nysgu.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Helen Crawford, Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl.