No themes applied yet
Stori y deg morwyn briodas
1“Bryd hynny, pan fydd yr Un nefol yn dod i deyrnasu, bydd yr un fath â deg morwyn briodas yn mynd allan gyda lampau yn y nos i gyfarfod âʼr priodfab. 2Roedd pump ohonyn nhwʼn ddwl, a phump yn gall. 3Aeth y rhai dwl allan heb olew sbâr. 4Ond roedd y lleill yn ddigon call i fynd ag olew sbâr gyda nhw. 5Roedd y priodfab yn hir iawn yn cyrraedd, a dyma nhw i gyd yn dechrau pendwmpian a disgyn i gysgu.
6“Am hanner nos dyma rywun yn gweiddiʼn uchel: ‘Maeʼr priodfab wedi cyrraedd! Dewch allan iʼw gyfarfod!’ 7Dymaʼr merched yn deffro ac yn goleuo eu lampau eto. 8Ond meddaiʼr morynion dwl wrth y rhai call, ‘Rhowch beth oʼch olew chi i ni! Maeʼn lampau niʼn diffodd!’ 9‘Na wir,’ meddaiʼr lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’
10“Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dymaʼr priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn iʼr wledd briodas gydag e, a dymaʼr drws yn cael ei gau.
11“Yn nes ymlaen cyrhaeddodd y lleill yn ôl, a dyma nhwʼn galw, ‘Syr! Syr! Agor y drws i ni!’ 12Ond dymaʼr priodfab yn ateb, ‘Wir, dw i ddim yn eich nabod chi!’
13“Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad naʼr amser oʼr dydd pan fydda iʼn dod yn ôl.
Stori y talentau
(Luc 19:11-27)
14“Pan ddawʼr Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw. 15Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) iʼr llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith. 16Dymaʼr gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gydaʼi arian, a llwyddodd i ddybluʼr swm oedd ganddo. 17Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth. 18Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo.
19“Aeth amser hir heibio, yna oʼr diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galwʼi weision i roi cyfri am yr arian oedd wediʼi roi yn eu gofal nhw. 20Dymaʼr un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’
21“‘Da iawn ti!’ meddaiʼr meistr, ‘Rwyt tiʼn weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw iʼn mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’
22“Wedyn dymaʼr un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’
23“‘Da iawn ti!’ meddaiʼr meistr, ‘Rwyt tiʼn weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw iʼn mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’
24“Wedyn dymaʼr un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod tiʼn ddyn caled. Rwyt tiʼn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw. 25Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian diʼn saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – maeʼr cwbl yna.’
26“Dymaʼr meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw iʼn ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw? 27Dylet ti o leia fod wedi rhoiʼr arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
28“Cymerwch yr arian oddi arno, aʼi roi iʼr un cyntaf sydd â deg talent ganddo. 29Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai syʼn gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw! 30Taflwch y gwas diwerth iʼr tywyllwch, lle bydd pobl yn wyloʼn chwerw ac mewn artaith!
Y defaid aʼr geifr
31“Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, aʼr holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd. 32Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu oʼi flaen, a bydd yn eu rhannuʼn ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanuʼr defaid aʼr geifr. 33Bydd yn rhoiʼr defaid ar ei ochr dde aʼr geifr ar ei ochr chwith.
34“Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydyʼr rhai mae fy Nhad wediʼu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Maeʼr cwbl wediʼi baratoi ar eich cyfer ers iʼr byd gael ei greu. 35Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn iʼn llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; 36chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn iʼn noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn iʼn sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’
37“Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni tiʼn llwgu a rhoi rhywbeth i ti iʼw fwyta, neuʼn sychedig a rhoi diod i ti? 38Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet tiʼn nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet tiʼn noeth? 39Pryd welon ni tiʼn sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’ 40A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpuʼr person lleiaf pwysig syʼn perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’
41“Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wediʼch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, iʼr tân tragwyddol sydd wediʼi baratoi iʼr diafol aʼi gythreuliaid. 42Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn iʼn llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i; 43ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn iʼn ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn iʼn noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn iʼn sâl ac yn y carchar.’
44“A byddan nhwʼn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni tiʼn llwgu neuʼn sychedig, neuʼn nabod neb neuʼn noeth neuʼn sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’ 45Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpuʼr un lleiaf pwysig oʼr rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’
46“Wedyn byddan nhwʼn mynd i ffwrdd i gael eu cosbiʼn dragwyddol, ond bydd y rhai wnaeth y peth iawn yn cael bywyd tragwyddol.”25:46 gw. Daniel 12:2
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015