Skip to main content

Canlyniadau annisgwyl: Genesis 25.19–24 (Ionawr 24, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 25.19–24

Mae yna ychydig o bethau annisgwyl yn y darlleniad heddiw - os nad i ni, a allai fod yn gyfarwydd iawn ag ef, yna yn sicr i’w gymeriadau, a’i wrandawyr cyntaf.

Heb sgan uwchsain, nid yw Rebeca’n ymwybodol am yr efeilliaid mae hi'n eu cario. Mae'n debyg mai poen beichiogrwydd arbennig o drafferthus sy'n ei gyrru i 'ofyn i'r Arglwydd' (adnod 22) ac yna mae'n darganfod ei bod hi'n cario 'dwy genedl', rhywbeth a oedd, heb amheuaeth, yn gwneud mwy o synnwyr pan oedd wedi esgor ar efeilliaid (adnod 24).

Ond efallai mai’r syndod mwyaf yw’r newyddion y bydd yr ‘hŷn yn gwasanaethu’r iau’. Y mab hynaf dylai fod wedi etifeddu’r enedigaeth-fraint, gan ei wneud yn bennaeth y teulu. Yn ddiweddarach yn y bennod darllenwn y rhan lle mae hon yn cael ei throsglwyddo i'r gefell iau.

Yn annisgwyl, mae Duw yn dewis y brawd iau i barhau â'r llinach a addawyd. Beth yw'r pethau annisgwyl rydych chi'n eu hwynebu? Beth allai fod gan Dduw i'w ddweud o dan yr amgylchiadau hynny?

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am y sylw rwyt yn ei roi i'n bywydau. Helpa fi i weld y sefyllfaoedd a'r pethau annisgwyl rwy'n eu hwynebu fel yr wyt ti’n ei wneud. Paratoa fi i weld dy bersbectif ar bethau annisgwyl sy'n croesi fy llwybr.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Helen Crawford, Rheolwr Profiad Beibl Digidol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible