No themes applied yet
Apelio iʼr Ymerawdwr pan oedd ar brawf o flaen Ffestus
1Dridiau ar ôl iddo gyrraedd y dalaith, aeth Ffestus i Jerwsalem. 2A dymaʼr prif offeiriaid aʼr arweinwyr Iddewig yn mynd ato, i ddweud wrtho beth oedd y cyhuddiadau oedd ganddyn nhw yn erbyn Paul. 3Dyma nhwʼn gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno aʼi ladd pan oedd ar ei ffordd.) 4Ond dyma Ffestus yn ateb: “Mae Paul yn y ddalfa yn Cesarea, a dw iʼn mynd yn ôl ynoʼn fuan. 5Caiff rhai oʼch arweinwyr chi fynd gyda mi aʼi gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth oʼi le.”
6Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Ynaʼr diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys. 7Yn y llys dymaʼr Iddewon o Jerwsalem yn casglu oʼi gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw.
8Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torriʼr Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem naʼr llywodraeth Rufeinig chwaith.”
9Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr iʼr Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt tiʼn barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf oʼm blaen i yno?”
10Atebodd Paul: “Dw iʼn sefyll yma o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrandoʼr achos. Dych chiʼn gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon. 11Os ydw i wedi gwneud rhywbeth syʼn haedduʼr gosb eithaf, dw iʼn fodlon marw. Ond, os nad ydyʼr cyhuddiadau ymaʼn wir, does gan neb hawl iʼm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw iʼn cyflwyno apêl i Gesar!”
12Ar ôl i Ffestus drafod y mater gydaʼi gynghorwyr, dyma feʼn ateb: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!”
Ffestus yn trafod Paul gydag Agripa
13Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gydaʼi chwaer Bernice, i ddymunoʼn dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr. 14Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gydaʼr brenin. “Mae yma ddyn sydd wediʼi adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai. 15“Y prif offeiriaid aʼr arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan oʼn i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.
16“Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle iʼr person syʼn cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun. 17Felly pan ddaethon nhw yma dyma fiʼn trefnu iʼr llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrandoʼr achos yn erbyn y dyn. 18Pan gododd yr erlyniad i gyflwynoʼr achos yn ei erbyn, wnaethon nhw moʼi gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn iʼn ei disgwyl. 19Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn oʼr enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw. 20Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion oʼr fath; felly gofynnais iddo a fyddaiʼn barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno. 21Ond dyma Paul yn gwneud apêl iʼr achos gael ei ohirio aʼi drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle iʼw anfon at Cesar.”
22Dyma Agripaʼn dweud wrth Ffestus, “Baswn iʼn hoffi clywed y dyn yma fy hun.”
A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”
Paul yn ymddangos o flaen Agripa
23Felly, y diwrnod wedyn dymaʼr Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad iʼw gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda phenaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn. 24Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Maeʼr Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma – maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw. 25Dw i ddim yn credu ei fod wedi gwneud dim i haeddu cael ei ddienyddio, ond gan ei fod wedi gwneud apêl iʼr Ymerawdwr dw iʼn bwriadu ei anfon i Rufain. 26Ond does gen i ddim byd pendant iʼw ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wediʼi alw oʼch blaen chi i gyd, ac yn arbennig oʼch blaen chi, frenin Agripa. Dw iʼn gobeithio y bydd gen i rywbeth iʼw ysgrifennu amdano ar ôl yr ymchwiliad swyddogol yma. 27Maeʼn gwbl afresymol i mi ei anfon ymlaen heb ddweud yn glir beth ydyʼr cyhuddiadau yn ei erbyn!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015