Skip to main content

‘Gwrandewch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud’: Datguddiad 2 (30 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Datguddiad 2

Mae’r llythyrau yn Datguddiad 2–3 yn dangos presenoldeb Crist gyda’i eglwysi, ei wybodaeth gyflawn o’u cyflwr ysbrydol a’i awydd am eu hymrwymiad calonnog iddo. Rhoddir sylw penodol i bob eglwys ond dywed hefyd ‘gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi’ lluosog (adnodau 7,11,17 a 29). Mae yna gyffredinolrwydd i’r negeseuon hyn; maent yr un mor berthnasol heddiw.

Mae’n bwysig nad ydym yn syrthio i’r fagl o’u darllen fel cardiau adroddiad ysgol, yn canolbwyntio ar ein hymdrechion ac yn gogwyddo tuag at feddylfryd o iachawdwriaeth trwy weithredoedd: ‘da iawn, ‘daliwch ati’ neu ‘ymdrechwch yn galetach’. O’r dechrau i’r diwedd, mae’r llythyrau hyn i gyd yn ymwneud â Christ – pwy ydyw, yr hyn y mae wedi’i wneud, a’r fuddugoliaeth a’r wobr dragwyddol sydd gan gredinwyr ffyddlon ynddo.

Mae’n hollbwerus ac yn bresennol ym mhobman (adnod 1); y Duw byw, tragwyddol (adnod 8); yr un sydd yn chwilio ein calonnau yn ôl gair Duw, y ‘cleddyf daufiniog’ (adnod 12); mae’n holl-wybodus gyda ‘sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid’ ac yn y dyfarniad terfynol bydd yn sathru pob gwrthryfel o dan ei draed (adnod 18).

Ynddo ef, bydd gan ‘y rhai sy’n ennill y frwydr’ fywyd tragwyddol ym mhresenoldeb Duw (adnodau 7 a 11); gwobrau nefol, hunaniaeth newydd (adnod 17); a byddant yn teyrnasu gyda Christ (adnod 26).

Yng ngoleuni hyn i gyd, gorchmynion Crist i bob eglwys - i garu Duw yn anad dim (adnodau 4-5), i fod yn ‘ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw’ (adnod 10), i edifarhau (adnodau 5, 16 a 22) a chydio’n dynn (adnod 25) - yw’r unig ymatebion priodol. Mae’n deilwng!

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Iesu, agor ein clustiau i glywed yr hyn y mae dy Ysbryd yn ei ddweud am gyflwr ein calonnau a’n helpu i ymateb yn briodol. Diolch Arglwydd am y gras yr wyt yn ei dywallt arnom a’r fuddugoliaeth a gawn ynot.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible