No themes applied yet
Moses yn annog y bobl i fod yn ufudd i Dduw
1“Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrandoʼn ofalus ar y rheolau aʼr canllawiau dw iʼn eu gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad maeʼr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi. 2Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw! 3Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor.4:3 Numeri 25:1-9 4Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon iʼr ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw. 5Gwrandwch, dw iʼn dysgu i chiʼr rheolau aʼr canllawiau mae Duw wediʼu rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chiʼn mynd iddi iʼw chymryd drosodd. 6Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A phan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhwʼn dweud, ‘Maeʼn wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’
7“Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Maeʼr ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn niʼn galw arno. 8A pha wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg âʼr casgliad yma o gyfreithiau dw iʼn ei rannu gyda chi heddiw?
9“Ond dw iʼn dweud eto, dw i eisiau i chi wrandoʼn ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wediʼi weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw iʼch plant aʼch wyrion aʼch wyresau. 10Pan oeddech chiʼn sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai,4:10 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai. dyma feʼn dweud wrtho i, ‘Casglaʼr bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiauʼi ddweud. Wedyn byddan nhwʼn dangos parch ata i tra byddan nhwʼn byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’
11“Dyma chiʼn dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgiʼn dân. Roedd fflamauʼn codi i fyny iʼr awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus. 12Yna dymaʼr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chiʼn clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim. 13A dyma feʼn dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma feʼn eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg. 14Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a chanllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chiʼn mynd drosodd iʼw chymryd.
Gwahardd gwneud delwau
15Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai. 16Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch, 17anifail, aderyn, 18ymlusgiad, neu bysgodyn. 19Wrth edrych iʼr awyr ar yr haul, y lleuad aʼr sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio iʼw haddoli nhw. Maeʼr ARGLWYDD eich Duw wediʼu rhoi nhw i bawb drwyʼr byd i gyd. 20Ond mae wediʼch dewis chi, aʼch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!
21“Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi oʼch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi afon Iorddonen a mynd i mewn iʼr wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi. 22Dyma ble bydda iʼn marw. Ond dych chiʼn mynd i groesiʼr Iorddonen a chymryd y tir da yna. 23Gwnewch yn siŵr na fyddwch chiʼn anghofioʼr ymrwymiad maeʼr ARGLWYDD eich Duw wediʼi wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly. 24Tân syʼn difa ydy Duw! Maeʼn Dduw eiddigeddus! 25Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg iʼch hunain drwy gerfio delw o unrhyw fath. A pheidiwch gwneud pethau drwg eraill syʼn pryfocioʼr ARGLWYDD eich Duw. 26Dw iʼn galwʼr nefoedd aʼr ddaear yn dystion yn eich erbyn chi – os gwnewch chi hynny, byddwch chiʼn cael eich taflu allan oʼr tir yna dych chi ar fin croesi afon Iorddonen iʼw gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn paraʼn hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrioʼn llwyr! 27Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwyʼr gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl. 28A byddwch chiʼn addoli duwiau wediʼu gwneud gan bobl – delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!
29“Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – âʼch holl galon, ac âʼch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo. 30Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau ymaʼn digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droiʼn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo, 31fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae eʼn Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofioʼr ymrwymiad hwnnw wnaeth e gydaʼch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw.
Mae Duw yn unigryw
32“Edrychwch yn ôl dros hanes, oʼr dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwyʼr byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd oʼr blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth? 33Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes? 34Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddoʼi hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ymladd drostyn nhw gydaʼi nerth rhyfeddol, a gwneud yr holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chiʼr ARGLWYDD eich Duw yn eu gwneud drosoch chi yn yr Aifft? 35Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. 36Gadawodd i chi glywed ei lais oʼr nefoedd, iʼch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chiʼr tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw. 37Ac am ei fod wedi caruʼch hynafiaid chi, dewisodd fendithioʼu disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan oʼr Aifft, 38i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw.
39“Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod! 40Rhaid i chi gadwʼr gorchmynion aʼr arweiniad dw iʼn ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethauʼn mynd yn dda i chi aʼch plant. A byddwch chiʼn cael byw am amser hir iawn yn y tir maeʼr ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi iʼw gadw.”
Trefi Lloches iʼr dwyrain oʼr Iorddonen
41Yna dyma Moses yn dewis tair tref iʼr dwyrain o afon Iorddonen yn drefi lloches. 42Byddai unrhyw un fyddaiʼn lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un oʼr trefi yma. 43Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse.
Cyflwyniad i Gyfraith Dduw
44Dymaʼr gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel – 45y gofynion, y rheolau aʼr canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft, 46pan oedden nhwʼn dal ar ochr ddwyreiniol afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor – sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a phobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan oʼr Aifft. 47Dyma nhwʼn cymryd ei dir e, a thir Og, brenin Bashan – y ddau ohonyn nhwʼn teyrnasu ar yr ardaloedd iʼr dwyrain oʼr Iorddonen. 48Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ger Dyffryn Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon4:48 Hermon Hebraeg, “Sïon – sef Hermon”. Maeʼn debyg mai ffurf arall ar enw pobl Sidon ar y mynydd oedd hwn (gw. Deuteronomium 3:9). yn y gogledd. 49Roedd yn cynnwys y tir iʼr dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd iʼr Môr Marw4:49 Hebraeg, “Môr yr Araba”. o dan lethrau Mynydd Pisga.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015