No themes applied yet
Concro Og brenin Bashan
(Numeri 21:31-35)
1“Yna dyma niʼn troi iʼr gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan, yn dod âʼi fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei. 2Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod âʼi ofn. Dw iʼn mynd i roi Og aʼi fyddin aʼi dir i gyd i ti. Byddiʼn gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’
3“A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma niʼn taro Og, brenin Bashan aʼi fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd. 4Dyma niʼn concro pob un oʼi drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob. 5Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol, gyda waliau uchel a giatiau dwbl hefo barrau iʼw cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored yno hefyd. 6Dyma niʼn gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant. 7Ond dyma niʼn cadwʼr anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.
8“Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw iʼr Iorddonen – o Ddyffryn Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. 9(Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac maeʼr Amoriaid yn ei alw yn Senir.) 10Roedden ni wedi concro trefiʼr byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan, yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og. 11(Og, brenin Bashan, oedd yr unig un oʼr Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wediʼi gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)
Y llwythau wnaeth setlo iʼr dwyrain oʼr Iorddonen
(Numeri 32:1-42)
12“Felly, dymaʼr tir wnaethon ni ei gymryd iʼr dwyrain o afon Iorddonen: dyma fiʼn rhoiʼr tir sydd iʼr gogledd o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a hanner bryniau Gilead, i lwythau Reuben a Gad. 13Wedyn dyma fiʼn rhoi gweddill Gilead a theyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei galw yn Wlad y Reffaiaid. 14Dyma Jair, o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Maeʼr ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dynaʼr enw ar yr ardal hyd heddiw.)
15“Dyma fiʼn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.
16“Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fiʼn rhoiʼr tir syʼn ymestyn o Gilead i Ddyffryn Arnon (Dyffryn Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Afon Jabboc a ffin Ammon.
17“Y ffin iʼr gorllewin oedd afon Iorddonen, o Lyn Galilea3:17 Llyn Galilea Hebraeg, “Llyn Cinnereth”, enw arall arno. i lawr iʼr Môr Marw,3:17 Hebraeg, “Môr yr Araba, sef y Môr Halen”. gyda llethrau Pisga iʼr dwyrain. 18Dwedais wrthoch chi bryd hynny, ‘Maeʼr ARGLWYDD eich Duw wedi rhoiʼr tir yma i chi. Ond rhaid iʼch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd. 19Bydd eich gwragedd aʼch plant yn cael aros yn y trefi dw i wediʼu rhoi i chi. Aʼr holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd – mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg. 20Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi; hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir maeʼr ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i afon Iorddonen.’
21“A dyma fiʼn dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD iʼr ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath iʼr teyrnasoedd lle dych chiʼn mynd. 22Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’
Moses ddim yn cael mynd i wlad Canaan
23“A dyma fiʼn pledio ar yr ARGLWYDD, 24‘O Feistr, ARGLWYDD, dw iʼn dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear syʼn gallu gwneud pethau mor anhygoel? 25Plîs, wnei di adael i mi groesi dros afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – Y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’
26“Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi oʼch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma feʼn dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth. 27Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen. 28Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, aʼi annog a rhoi hyder iddo. Fe ydyʼr un syʼn mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi diʼn ei gweld o dy flaen di.’
29“Felly dyma niʼn aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015