Skip to main content

‘Edrychwch! Mae’n dod!’: Datguddiad 1 (29 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Datguddiad 1

Roedd eglwysi yn yr Ymerodraeth Rufeinig yn wynebu llawer o bwysau, o effeithiau dichellgar dysgeidiaeth ffug a themtasiynau bydol i erledigaeth lwyr. Anfonwyd Cristnogion i arenâu Rhufeinig i farw, dienyddiwyd rhai o’r apostolion ac alltudiwyd Ioan mewn ymgais i’w atal rhag lledaenu’r efengyl.

Mae credinwyr ledled y byd yn wynebu’r un mathau o bwysau heddiw. Efallai bod adegau pan fyddwn yn pendroni beth mae Duw yn ei wneud ac a oes dyfodol i’r eglwys ond mae datguddiad Iesu Grist (adnod 1) yn anogaeth enfawr i bawb sy’n aros iddo ddychwelyd. Mae’n tynnu’r gorchudd i ddangos y Duw triunol ar waith ac mae’n llawn sicrwydd i lynu wrtho waeth beth sy’n rhaid i ni ei wrthsefyll neu ei ddioddef yn amyneddgar fel ei dystion.

Rydym yn cael ein hannog i wrando, ymddiried a chydio’n dynn oherwydd ‘mae’r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos’ (adnod 3) a bydd cynlluniau Duw i achub ac adfer ei greadigaeth yn trechu. ‘Edrychwch! Mae’n dod’ (adnod 7), ein gwaredwr, barnwr, a’n brenin, Iesu Grist. ‘Mae’n ein caru ni, ac mae wedi marw droson ni i’n gollwng ni’n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy’, ac rydym yn perthyn i’w deyrnas dragwyddol (adnod 5).

Waeth pa mor wan y gall eglwys deimlo, rydym yn cael delwedd o ‘un oedd yn edrych fel person dynol’ yn sefyll yn ein plith (adnod 13), yn dweud ‘Paid bod ag ofn. Fi ydy’r Cyntaf a’r Olaf, yr Un Byw. Rôn i wedi marw, ond edrych! – dw i’n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw (adnodau 17–18). Yng Nghrist fe gawn y fuddugoliaeth.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Dduw, ti yw’r Alffa a’r Omega, yr un sydd, ac yr oedd, a sydd i ddod, yr Hollalluog. Helpa fi i oddef dioddefaint yn amyneddgar ac aros yn dyst ffyddlon, gan wrthsefyll dysgeidiaeth ffug a themtasiwn. I Ti y bo gogoniant ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible