Skip to main content

Gwneud safiad dros y ffydd: Jwdas (28 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Jwdas 1

Mae llythyr Jwdas yn alwad brys i ymladd dros ac amddiffyn y gwir ffydd. Credodd bod ganddo achos i lawenhau gyda chymuned ffyddlon o gredinwyr ond, i’w arswyd, mae’n canfod eu bod nid yn unig mewn argyfwng ond yn ymddangos yn anymwybodol o’r ffaith.

Mae pobl ‘sydd ddim yn gwrando ar Dduw’ wedi rhywsut ‘sleifio i mewn’ i’w plith (adnod 4) ac yn heintio popeth a’u presenoldeb gwenwynig. Gan ddilyn eu greddfau pechadurus (adnod 10) ac wedi eu hysgogi gan drachwant (adnod 11), maent yn troi dysgeidiaeth yr efengyl am ras i ddweud y gallent fod mor anfoesol ag y dymunent heb ddioddef unrhyw ganlyniadau. Mae’n gyfystyr â gwadu ‘awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a’n Harglwydd ni.’ (adnod 4).

Sut ydych yn meddwl byddai’r eglwys yn ymateb i dderbyn llythyr o’r fath heddiw? Gyda’i naws llym, ei ddelweddau byw a thrwy ein hatgoffa yn aml o farn Duw, mae’r llythyr wedi ei fwriadu i fod yn ysgytiol ac anghyfforddus i’w ddarllen. Ond roedd Jwdas yn amlwg yn barod i dramgwyddo er mwyn y rhai byddai’n deffro i’r perygl ac edifarhau. Efallai mai dyma ei ymgais i achub rhai drwy eu ‘cipio allan o’r tân’ (adnod 23).

Gall dulliau Jwdas fod yn rymus ond nid ydynt heb gariad. Nid yw’n gweiddi am ddinistr ei ddarllenwyr! Mae am weld eu ffydd yn cael eu hadfer a thystiolaeth o’r Ysbryd Glan a chariad Duw yn eu bywydau. Mae eisiau trugaredd i amheuwyr ac achubiaeth i’r rhai sydd ar goll mewn pechod (adnodau 20-23). Yn ddiamau, mae am iddynt weld mawredd yr ‘unig Dduw, sy’n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd’ a rhoi’r holl ogoniant iddo (adnodau 24-25).

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch dy fod yn gallu fy nghadw rhag disgyn a dod â mi yn ddi-fai ac yn llawen i dy bresenoldeb gogoneddus. I ti y byddo’r gogoniant, mawredd, nerth ac awdurdod, yn oes oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible