Skip to main content

Paid dilyn ei esiampl ddrwg: 3 Ioan (27 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 3 Ioan

Os ydych wedi byw am unrhyw gyfnod o amser, byddwch chi wedi profi amrywiaeth o arweinwyr ac arddulliau arweinyddiaeth. Dros y blynyddoedd, does dim dwywaith y byddwch wedi ffurfio barn am effeithiolrwydd yr hyn rydych wedi’i weld. Ond beth sy’n gwneud arweinydd eglwys dda?

Mae llythyr Ioan i Gaius, Cristion ffyddlon gyda’i eglwys o dan ddylanwad dyn o’r enw Diotreffes, yn dangos yn berffaith y gwahaniaeth rhwng arweinyddiaeth dda a dinistriol. Does dim sôn am ddysgeidiaeth ffug felly mae’n ymddangos mai’r broblem gyda Diotreffes, sydd ‘eisiau bod yn geffyl blaen’ (adnod 9), yw ei awydd am bŵer a chamddefnydd o’i ddylanwad.

Mae hyn yn arwain Diotreffes i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n brifo’r eglwys (adnodau 9–10). Mae’n gwrthod gwrando ar gyngor Ioan, ei henuriad yn y ffydd, ac yn lledaenu celwyddau i danseilio ei awdurdod. Mae’n atal lletygarwch a chefnogaeth rhag credinwyr sy’n ymweld, ac yn bygwth diarddel y rhai sydd am eu croesawu.

Mae’r ffordd mae Ioan yn bugeilio Gaius yn wrthgyferbyniad llwyr. Mae’n caru Gaius ac yn poeni am ei les (adnod 2). Mae Ioan yn canmol gwir ffydd Gaius (adnod 3) ac yn annog y dystiolaeth o hyn mae’n ei weld yn ei weithredoedd (adnod 5). Cymhelliant a llawenydd mwyaf Ioan yw gweld credinwyr yn ‘byw’n ffyddlon i’r gwir’ (adnod 4), ac yn cydweithio i wasanaethu Crist (adnodau 7–8).

Dim ond ei hun mae Diotreffes yn ei wasanaethu. Efallai ei fod yn galw ei hun yn arweinydd eglwys ond mae ei weithredoedd yn ‘ddrwg’ ac yn dangos nid yw yn ‘nabod Duw’ (adnod 11). Nid ydym i fod yn debyg iddo.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, diolch am y rhai yr wyt wedi ei dewis i ysgwyddo cyfrifoldeb enfawr arweinyddiaeth yn yr eglwys. Boed i’w cymhelliant fod i wasanaethu Crist a’u llawenydd mwyaf i weld credinwyr yn byw yn dy ogoniant. Arglwydd, os ydym yn cael ein brifo gan arweinyddiaeth wael, iachâ ac annog ni yn ein ffydd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible