Skip to main content

‘Deffra!’: Datguddiad 3 (31 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Datguddiad 3

Roedd gan yr eglwys yn Sardis enw o fod yn ‘eglwys fyw’, ond dywed Crist ei bod i’n farw (adnod 1). Roedd yr eglwys yn Laodicea yn llawn hyder, gan ddweud ‘Dw i’n gyfoethog; dwi i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd’, ond dywed Crist eu bod wedi eu twyllo -  yn ‘druenus’ a ‘thlawd’ ym mhob ffordd sydd o bwys (adnod 17).

Mae’n ymddangos y byddai’r asesiadau hyn wedi dod yn sioc. Ond ‘....Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.” (1 Samuel 16.7). Mae Crist, yr unig ‘tyst ffyddlon’ a fu erioed ar y ddaear (adnod 14) yn adnabod ffydd wirioneddol wrth ei weld.

Mae’n syniad anghyfforddus, ond mae’r llythyrau hyn yn ein hwynebu gyda’r posibilrwydd nad ydym efallai mor fyw neu mor gyfoethog yng Nghrist ag yr ydym yn meddwl. A ydym yn mynd ati  i wasanaethu Crist heb frwdfrydedd? A ydym yn brysur yn canmol addoliad gwefreiddiol, seddi llawn, pregethu ysbrydoledig ac estyn allan i’r gymuned fel arwyddion ein bod ar dân dros Dduw, tra bod Crist yn ceisio chwydu offrymau llugoer ein calonnau (adnodau 15-16)? 

Mae yna ymdeimlad o frys pan ddywed Crist ‘Deffra!’ (adnod 2), ‘felly, cofia beth wnest ti ei glywed a’i gredu gyntaf; gwna hynny a throi yn ôl ata i’ (adnod 3).

‘Ychydig nerth’ oedd gan yr eglwys yn Philadelphia yng ngolwg y byd, ond roedd Crist yn caru eu dycnwch wrth gadw gair Duw a gwrthod ei wadu (adnod 8). A ydym yn awyddus i ymuno ag eglwysi sy’n edrych fel hyn? Dywed Crist fod ei deml wedi’i hadeiladu gyda chredinwyr fel y rhain ac na fyddent byth yn cael eu heithrio o’i bresenoldeb (adnod 12).

Gweddi

Gweddi

‘Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni. Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr’ (Salm 139.23-24).


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible