Skip to main content

Agor ein llygaid: 2 Brenhinoedd 6 (24 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 6

Ar yr wyneb mae’r sefyllfa’n enbyd. Mae byddin gyda cheffylau a cherbydau yn amgylchynu’r ddinas. Ond eto mae’r bennod hon yn cynnwys datgeliad dramatig. Mae gwas ofnus Eliseus yn dod yn ymwybodol o realiti fel y mae, yn hytrach na realiti o lygad ei feddwl: Ond dyma Eliseus yn ateb, ‘Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nag sydd gyda nhw’ (adnod 16).

Mae’n wers bwysig. Hyd yn oed os oes gennym weledigaeth 20:20 mae ein golwg ni yn amherffaith. Gallwn dueddu i fynd trwy fywyd gan weld pethau ar lefel arwynebol a chymryd mai dyna’r cyfan sydd yna. Rydym yn edrych ar lyn ac yn edmygu’r haul yn pefrio ar y wyneb, ac eto nid ydym yn meddwl am y bydysawd o fywyd o dan yr wyneb. Pwy sydd heb gael y profiad o chwilio am oriadau coll ond i’w darganfod eu bod ‘o flaen ein llygaid’ ar hyd yr amser? Gall hyd yn oed newid bach mewn persbectif ddatgelu rhywbeth a gollwyd gennym.

Ble mewn bywyd ydych chi ond yn gweld beth sydd ar yr wyneb? Ydych chi’n tybio y gallwch weld y cyfan? A yw eich safbwynt wedi dod yn sefydlog neu’n gul? Efallai eich bod yn teimlo bod Duw yn ymddangos yn absennol neu na allwch chi weld ei weithredoedd yn y byd? Gwnewch eiriau gweddi Eliseus yn rhai i chi eich hun: Agora fy llygaid imi allu gweld (adnod 20).

Gweddi

Gweddi

Agora ein llygaid inni allu gweld. Duw, helpa ni pan fydd ein gweledigaeth yn crebachu a phersbectif yn culhau. Helpa ni heddiw i weld pethau fel maent go iawn. Caniatâ i ni weld dy waith yn y byd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible