Skip to main content

Gweithred syml: 2 Brenhinoedd 5 (23 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 5

Mae gan Naaman y cyfan: mae’n brif gadlywydd milwrol, yn ddyn mawr ac yn uchel ei barch. Ond mae ganddo’r gwahanglwyf, un o afiechydon oedd yn cael ei ofni fwyaf yn yr oes honno. Mae geiriau merch oedd yn gweini yn ei annog i fachu ar y cyfle i gael ei iacháu. Mae’n mynd i Israel gyda’r holl gyfoeth a phŵer y gall dyn o’i statws gael. Mae ganddo lythyr gan y brenin hyd yn oed.

Rydym yn symud o’r palas i gartref y proffwyd ac mae popeth yn newid. Nid yw Eliseus hyd yn oed yn mynd allan i siarad â’r ymwelydd pwysig hwn, yn hytrach mae’n anfon y neges y dylai Naaman fynd i olchi ei hun yn yr Iorddonen saith gwaith. Mae Naaman wedi ei gythruddo. Mae wedi arfer cael ei drin â pharch. Gall ei weision weld ei fod yn disgwyl rhyw arwydd neu weithred fawreddog: ‘Rôn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i’ (adnod 11). Ond mae Naaman yn darostwng ei hun ac yn cael ei iachau.

Mor aml mae Duw yn ymddangos yn y byd mewn lleoedd annisgwyl ac fel arfer heb arwyddion mawreddog. Mae brenin yn cael ei eni mewn preseb ac mae pysgotwyr syml yn troi’r byd wyneb i waered. Teitlau, swyddi, cyfoeth a phŵer: gallwn ymgolli ym mhwysigrwydd y pethau hyn, ond mae neges gras i’w chael yn aml mewn ennyd byr a gweithredoedd syml.

Gweddi

Gweddi

Duw gras, bydded inni golli ein chwant am arwyddion mawreddog a dy weld yn y pethau bach a syml. Syfrdana ni heddiw gydag adegau annisgwyl o ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible