No themes applied yet
Daniel yn gweddïo dros ei bobl
1Dyma Dareius o Media,9:1 Dareius o Media Mae ysgolheigion yn ansicr pwy yn union y cyfeirir ato. mab Ahasferus,9:1 Ahasferus Xerxes yn yr LXX. Maeʼn bosib mai teitl brenhinol ydyʼr enw Ahasferus yma. yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon. 2Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad9:2 blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad tua 538 CC maeʼn debyg. Byddai Daniel yn ddyn yn ei wyth degau cynnar erbyn hyn. roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fiʼn gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd.9:2 saith deg o flynyddoedd gw. Jeremeia 25:11-13; 29:10.
3Felly dyma fiʼn troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn iʼn ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. 4Rôn iʼn gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydyʼr Duw mawr a rhyfeddol! Tiʼn Dduw ffyddlon syʼn cadw dy ymrwymiad iʼr bobl syʼn dy garu ac syʼn ufudd i ti. 5Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth syʼn ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di. 6Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gydaʼn brenhinoedd ni aʼn harweinwyr, ein hynafiaid aʼn pobl i gyd.
7“Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwyʼr gwledydd lle rwyt ti wediʼu gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di. 8O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd aʼn harweinwyr aʼn hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di. 9Ond rwyt ti, ein Duw aʼn Meistr ni, yn Dduw trugarog syʼn maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn. 10Wnaethon ni ddim talu sylw pan oeddet tiʼn ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi,9:10 Jeremeia 25:4; 29:19 ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.
11“Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet tiʼn ddweud. Felly maeʼr felltith roeddet ti wediʼn rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses9:11 maeʼr felltith … nghyfraith Moses gw. Lefiticus 26:27-45; Deuteronomium 28:15-68. wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di. 12Ti wedi gwneud beth roeddet ti wediʼi fygwth i ni aʼn harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem. 13Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethauʼn iawn gydaʼr ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a chydnabod dy fod tiʼn ffyddlon. 14Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth roedd eʼn wneud, a daeth âʼr dinistr arnon ni. Mae popeth maeʼr ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
15“Felly, o Dduw ein Meistr ni, syʼn enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft:9:15 Deuteronomium 6:21; 9:26; Jeremeia 32:20; Nehemeia 9:10 dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg. 16O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth syʼn iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, aʼr mynydd rwyt wediʼi gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, aʼn hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb oʼu cwmpas nhw! 17Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig9:17 edrych yn garedig Hebraeg, “llewyrchu dy wyneb,” sef gwenuʼn garedig (cf. Numeri 6:25; Salm 80:3,7,19). eto ar dy deml sydd wediʼi dinistrio. 18O Dduw, gwrandoʼn astud ar beth dw iʼn ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma syʼn cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod niʼn honni ein bod wedi gwneud beth syʼn iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog. 19O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, aʼr bobl syʼn cael eu cysylltu â dy enw di.”
Gabriel yn esbonioʼr weledigaeth
20Rôn iʼn dal ati i weddïo, a chyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem aʼr mynydd sydd wediʼi gysegru ganddo.9:20 mynydd sydd wediʼi gysegru ganddo y bryn roedd y deml wediʼi hadeiladu arni. 21A tra oeddwn iʼn gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethuʼn llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr. 22Dyma feʼn esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethauʼn iawn. 23Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma iʼw rannu gyda ti. Rwyt tiʼn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrandoʼn ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.
24Mae saith deg cyfnod o saith9:24 saith deg cyfnod o saith cf. Lefiticus 25:8. Roedd y rhifau 7 a 70 yn cynrychioli cyfnodau cyflawn, a 7 wediʼi luosi â 7 (sef 49) yn symbol oʼr blynyddoedd cyn Blwyddyn y Rhyddhau. wediʼu pennu
i dy bobl aʼr ddinas sanctaidd
roi diwedd ar eu gwrthryfel.
I ddod âʼr pechu i ben, delio gyda drygioni
a gwneud pethauʼn iawn unwaith ac am byth.
I gadarnhau y weledigaeth broffwydol,
ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd.
25Felly rhaid i ti ddeall:
Oʼr amser pan gafodd y gorchymyn ei roi
i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem
nes daw un wediʼi eneinio yn arweinydd,9:25 un wediʼi eneinioʼn arweinydd Maeʼr gair Hebraeg yn golygu “tywallt olew (ar ben rhywun)”. Dyma sut oedd rhywun yn cael ei wneud yn offeiriad neu yn frenin.
bydd saith cyfnod o saith.
Bydd y ddinas yn cael ei hadfer aʼi hailadeiladu
gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn
am chwe deg dau cyfnod o saith.
Ond bydd hiʼn amser caled, argyfyngus.
26Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith,
bydd yr un wediʼi eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd,
bydd heb ddim.
Yna bydd y ddinas aʼr deml yn cael eu dinistrio
gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod.
Bydd y diwedd yn dod fel llif.
Bydd rhyfelaʼn para iʼr diwedd.
Mae dinistr wediʼi gyhoeddi.
27Bydd yn gwneud ymrwymiad gydaʼr tyrfaoedd
am un cyfnod o saith.
Ond hanner ffordd drwyʼr saith
bydd yn stopioʼr aberthau aʼr offrymau.
Yna ar yr adain bydd yn codi
eilun ffiaidd syʼn dinistrio,9:27 Yna ar yr adain … dinistrio Falle fod hyn yn cyfeirio at beth ddigwyddodd yn 1 Macabeaid 1:54-57. Maeʼn bosib fod “adain” yn cyfeirio at gyrn yr allor. Gwnaeth Antiochus IV ddefodau Iddewig yn anghyfreithlon (sef darllen y Gyfraith, cadwʼr Saboth, ymarfer enwaediad a chyflwyno aberthau). Cysegrodd y Deml oʼr newydd iʼr duw Zews/Iau, codi delw oʼr duw hwnnw yn y deml ac (yn ôl yr hanesydd Josephus) aberthu moch iddo ar yr allor.
nes iʼr dinistr sydd wediʼi ddyfarnu9:27 Eseia 10:23
ddod ar yr un syʼn dinistrio.”9:27 Daniel 11:31; 12:11; Mathew 24:15; Marc 13:14
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015