No themes applied yet
Gweledigaeth Daniel ar lan afon Tigris
1Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus,10:1 trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus 536 CC Roedd Daniel tua wyth deg pedwar oed. brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alwʼn Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd – amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges aʼr weledigaeth gafodd.
2Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn. 3Rôn iʼn bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd. 4Yna ar y pedwerydd ar hugain oʼr mis cyntaf10:4 mis cyntaf Nisan (oedd hefyd yn cael ei alw yn Abib), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. Dyma pryd oedd Gŵyl y Pasg yn cael ei dathlu – gw. Exodus 12:2. rôn iʼn sefyll ar lan afon fawr Tigris. 5Gwelais ddyn yn sefyll o mlaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.10:5,6 Datguddiad 1:13-15; 2:18; 19:12 6Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, aʼi lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau aʼi goesau yn gloywi fel pres wediʼi sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau. 7Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhwʼn rhedeg i ffwrdd i guddio. 8Felly dyna lle roeddwn iʼn sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylioʼr cwbl. Rôn iʼn teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Rôn iʼn hollol wan. 9Pan glywais eʼn dechrau siarad dyma fiʼn llewygu. Rôn iʼn fflat ar fy wyneb ar lawr.
10Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, aʼm codi ar fy nwylo aʼm gliniau. 11“Daniel,” meddai, “rwyt tiʼn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw iʼn mynd iʼw ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fiʼn sefyll ar fy nhraed, ond rôn iʼn dal i grynu. 12Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu oʼi flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi. 13Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd10:13 arweinydd Hebraeg, “tywysog”. Cyfeiriad at angel maeʼn debyg. teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un oʼr prif arweinwyr, yn dod iʼm helpu pan oeddwn iʼn sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun. 14Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth syʼn mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
15Tra oedd yn siarad roeddwn iʼn edrych i lawr, ac yn methu dweud gair. 16Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fiʼn dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wediʼi weld yn ormod iʼw gymryd. Dw iʼn teimloʼn hollol wan. 17Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!” 18Yna dymaʼr un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi. 19“Paid bod ag ofn,” meddai. “Tiʼn ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn iʼn teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fiʼn dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimloʼn well.”
20Yna meddai, “Wyt tiʼn gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod. 21Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wediʼi ysgrifennu mewn llyfr syʼn ddibynadwy. Does neb iʼm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015