Skip to main content

Peidiwch â cholli’r negesydd: 2 Brenhinoedd 7 (25 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 7

Fel y gwyddom o adrannau eraill yn yr Ysgrythur, roedd gwahangleifion wedi eu diarddel o gymdeithas ac ni chaniatawyd iddynt fyw yn y ddinas. Wedi eu gwrthod a’u hofni gan gymdeithas, roedd eu bywydau y tu allan i giatiau’r ddinas yn dibynnu ar elusen. Ond eto yn 2 Brenhinoedd 7 nhw sy’n dod â neges y brynedigaeth i furiau’r ddinas – mae ceidwaid y giatiau yn anfon y neges ymlaen ac mae’r newyddion yn cyrraedd y brenin.

Rydym i gyd yn gwybod y dywediad ‘Peidiwch â saethu’r negesydd’, ond beth am: ‘Peidiwch â cholli’r negesydd?’ Fel Naaman a’i ddisgwyliad o arwydd mawreddog (pennod 5) gallwn yn aml golli’r negesydd y mae Duw yn ei anfon. Pwy fyddai wedi disgwyl i’r bobl hyn sydd â’r gwahanglwyf ddod â’r newyddion da am warchae a godwyd?

Rydym yn cael ein newyddion o’n ffôn, teledu neu radio – ond ble ydych chi’n clywed gan Dduw? Ydych chi’n agored i glywed gan Dduw mewn ffyrdd annisgwyl? Trwy gydol yr Ysgrythur mae Duw yn defnyddio’r bobl fwyaf annisgwyl i rannu ei air. Peidiwch â cholli’r negesydd! Efallai bod Duw wedi bod yn siarad â chi, ond rydych wedi ei anwybyddu oherwydd na ddaeth fel roeddech yn ei ddisgwyl? Fel y gwas ym mhennod 6 agorwyd ei lygaid, weithiau mae angen inni agor ein clustiau fel y gallwn glywed gan Dduw.

Gweddi

Gweddi

Duw gras, helpa ni i oresgyn ein disgwyliadau o ran sut rwyt yn gweithredu’r byd. Gad inni gael clustiau i glywed a llygaid i weld dy air inni heddiw.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible