Skip to main content

1 Pedr 2.4–12: Nid jyst brics mewn wal. (14 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Pedr 2

Mae cân enwocaf Pink Floyd yn sialens i’r drefn gymdeithasol sy’n gorfodi pobl i chwarae rhyw ran neu rôl arbennig, s’dim ots beth yw eu talentau a’u doniau. “All in all you’re just another brick in the wall.” medden nhw. Galwad ydyw wrth gwrs i ryddhau creadigrwydd, yn enwedig felly yn yr ifanc.

Yn 1 Pedr 2 mae’r awdur yn defnyddio’r un trosiad bron ond mewn ffordd hollol wahanol. Roedd Iesu, meddai, yn garreg a wrthodwyd gan yr adeiladwyr am nad oedd yn cyfateb i’w syniadau hwy am Feseia – doedd Iesu ddim yn garreg oedd yn addas i’w wal nhw. Ond fe wnaeth Duw ef yn faen y gongl, y garreg honno sy’n cynnal yr holl adeilad, yr un y mae pob carreg arall wedi ei gosod yn gywir o hynny ymlaen oddi wrthi. Mae dilynwyr Iesu yn feini byw. Felly, meddai Pedr, '...mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist' (adnod 5).

Mae bod yn Gristion yn golygu bod yn gyd-weithiwr. Nid dim ond unigolion gyda pherthynas bersonol gyda’n Duw ydyn ni. R’yn ni’n rhan o gorff o gredinwyr ac rydyn ni’n byw mewn perthynas â phobl eraill. Mae bod yn fricsen mewn wal fel hon yn fraint: rydyn ni’n feini byw sydd wedi ein dewis ac sydd yn dewis i fod yn rhan o adeiladwaith rhyfeddol – teml ysbrydol sy’n dweud wrth y byd am ogoniant Duw. Ni sydd i ddangos i’r byd sut y dylai pethau fod ynddo mewn gwirionedd. Wrth gwrs rydyn ni bawb yn methu’n affwysol wrth geisio gwneud hyn sawl gwaith drosodd, ond dyna yw ein galwad sanctaidd mewn gwirionedd. (adnodau 9-10) 

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch i ti am y fraint o fod yn rhan o dy waith mawr di yma ar y ddaear. Dangos i mi beth mae’n golygu i fod yn un o’r meini byw rheini a mod i wedi fy ngalw allan o dywyllwch i dy oleuni rhyfeddol di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible