Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi nawr i dderbyn dy Air di. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Gwna fi yn sicr o dy fwriadau cariadlon tuag ataf a siarad gyda fi yn fy mywyd heddiw.
Thema fawr y bennod agoriadol hon o 1Pedr yw’r dechreuad newydd y mae Duw wedi ei drefnu ar gyfer y rhai sy’n rhoi eu hymddiriedaeth yn Iesu. ‘Oherwydd ei drugaredd fawr mae wedi rhoi bywyd newydd i ni trwy atgyfodiad Iesu oddi wrth y meirw’ meddai’r awdur yn adnod 3. Mae bendithion y bywyd newydd yma yn cael eu cadw yn ddiogel i ni yn y nefoedd ‘lle na allant gael eu difetha na’u difwyno’ Ochr yn ochr â hyn mae’r awdur yn dangos llun o fywyd ar y ddaear hon, lle mae’n rhaid i ni ddioddef pob math o dreialon. (adnod 6)
Mae addewidion fel hyn yn arwain beirniaid weithiau i ddweud bod Cristnogion yn edrych am ryw ‘fan gwyn fan draw’ ar ôl marwolaeth ac nad ydyn nhw â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd nawr, ar y ddaear hon. Ond mae hanes yn tystio’n wahanol – mae Cristnogion wedi bod ar flaen y gâd mewn newidiadau cymdeithasol er gwell, ac mewn gofal cymdeithasol. Ond yn y bennod hon mae’n hollol glir bod goblygiadau'r bywyd newydd yma yng Nghrist a gobaith am y nefoedd yn pwysleisio bod Cristnogion yn gofalu mwy ac nid llai am fywyd fan hyn. Mae Pedr yn dweud y dylem ni fod yn sanctaidd ym mhopeth wnawn ni, yn union fel y mae Duw wedi ein galw ni i fod yn sanctaidd (adnod 15) a hefyd rydym i ‘garu ein gilydd gyda’n holl galon’ (adnod 22). Am ein bod yn gallu galw Duw yn ‘Dad’ i ni rydym ni i ‘dreulio gweddill ein dyddiau ar y ddaear yn ei barchu Ef.(adnod 17)
Nid dim ond tocyn mynediad i’r nefoedd ar ddiwedd oes yw Iesu. Mae’n rhodd o lawenydd sy’n cyfoethogi bywyd fan hyn, bob dydd, ac mae’n newid popeth ynghylch sut rydym ni’n edrych ar bobl eraill a sut rydyn ni’n byw ein bywydau o ddydd i ddydd.
Diolch i ti Arglwydd am y bywyd newydd sydd ar gael i mi yn Iesu Grist ac am y llawenydd rhyfeddol mae hynny’n ei roi i mi. Helpa fi i fyw o ddydd i ddydd yng ngoleuni'r hyn rwyt Ti wedi ei wneud drosof fi.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.