No themes applied yet
Pobl yr ARGLWYDD yn dod adre
1Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob,
ac yn dewis Israel unwaith eto.
Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain,
a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw
ac yn uniaethu gyda phobl Jacob.
2Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl iʼw mamwlad.
Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw,
iʼw drin gan eu gweision aʼu morynion.
Byddan nhwʼn caethiwoʼr rhai wnaeth eu caethiwo nhw,
ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
Marwolaeth brenin Babilon!
3Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, aʼr holl waith caled pan oeddet tiʼn gaethwas, 4byddiʼn adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:
“Ble maeʼr gormeswr wedi diflannu?
Mae ei falchder wedi dod i ben!
5Maeʼr ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,
a gwialen y gormeswyr.
6Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd
yn ddi-stop.
Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd
aʼu herlid yn ddi-baid.
7Bellach maeʼr ddaear yn dawel a digyffro,
ac maeʼr bobl yn canuʼn llawen.
8Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,
aʼr coed cedrwydd yn Libanus yn canu:
‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,
dydyʼr torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’
9Mae byd y meirw isod mewn cyffro,
yn barod i dy groesawu di –
bydd y meirwʼn deffro, sef arweinwyr y byd,
a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear
yn codi oddi ar eu gorseddau.
10Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di,
‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithauʼn wan fel ni!
11Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau
wedi eu tynnu i lawr i Annwn!14:11 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle maeʼr meirw yn mynd”.
Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat
a phryfed genwair yn flanced drosot ti!
12Y fath gwymp!
Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr,
wedi syrthio oʼr nefoedd!
Ti wedi dy dorri i lawr iʼr ddaear –
ti oedd yn sathruʼr holl wledydd!
13Roeddet tiʼn meddwl i ti dy hun,
“Dw iʼn mynd i ddringo iʼr nefoedd,
a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw.
Dw iʼn mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa
yn y gogledd pell.14:13 gogledd pell Hebraeg, Saffon, sef y mynydd mytholegol mae Salm 48:2 yn cyfeirio ato.
14Dw iʼn mynd i ddringo ar gefn y cymylau,
a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
15Oʼr fath gwymp –
rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,
iʼr lle dyfnaf yn y Pwll!
16Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni:
“Ai hwn ydyʼr dyn wnaeth iʼr ddaear grynu,
a dychryn teyrnasoedd?
17Ai fe ydyʼr un drodd y byd yn anialwch,
a dinistrioʼi ddinasoedd –
heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’
18Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd – pob un ohonyn nhw –
yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.
19Ond ti? – Cest ti dy adael heb dy gladdu,
yn ffiaidd, fel ffetws wediʼi erthylu.
Fel corff marw yn y dillad a wisgai
pan gafodd ei drywanu âʼr cleddyf.
Fel y rhai syʼn syrthio i waelod y pwll,
neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
20Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,
am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun
a lladd dy bobl dy hun.
Boed i neb fyth eto gofioʼr
fath hil o bobl ddrwg!
21Paratowch floc i ddienyddioʼi feibion
o achos drygioni eu tad.
Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannuʼr tir
a llenwiʼr byd gydaʼi dinasoedd!”
Bydd Duw yn cosbi Babilon
22Dyma maeʼr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Bydda iʼn codi yn eu herbyn nhw.
Bydda iʼn dileu pob enw o Babilon,
a lladd phawb syʼn dal ar ôl yno,
eu plant aʼu disgynyddion i gyd.
23Bydda iʼn llenwiʼr wlad â draenogod
aʼi throiʼn gors o byllau dŵr mwdlyd.
Bydda iʼn ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr.”
–yr ARGLWYDD hollbwerus syʼn dweud hyn.
Duw yn cosbi Asyria
24Maeʼr ARGLWYDD hollbwerus wedi tyngu llw:
“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;
bydd fy nghynlluniauʼn dod yn wir.14:24-27 Eseia 10:5-34; Nahum 1:1–3:19; Seffaneia 2:13-15
25Bydda iʼn dryllio grym Asyria yn fy nhir,
ac yn ei sathru ar fy mryniau.
Bydd ei hiau yn cael ei thynnu oddi ar fy mhobl,
aʼr baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
26Dynaʼr cynllun sydd gen i
ar gyfer y ddaear gyfan.
Dyna pam mae fy llaw yn barod
i ddelio gydaʼr cenhedloedd i gyd.”
27Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus gynllun –
pwy syʼn mynd iʼw rwystro?
Mae ei law yn barod i weithredu –
pwy syʼn mynd iʼw ddal yn ôl?
Cosbiʼr Philistiaid
28Neges gafodd ei rhoi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:14:28 Brenin Ahas farw sef y flwyddyn 715 CC. 14:28 2 Brenhinoedd 16:20; 2 Cronicl 28:27
29Peidiwch dathlu, chiʼr Philistiaid i gyd,
am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wediʼi thorri.
O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,
gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.14:29-31 Jeremeia 47:1-7; Eseciel 25:15-17; Joel 3:4-8; Amos 1:6-8; Seffaneia 2:4-7; Sechareia 9:5-7
30Bydd y tlotaf oʼr tlawd yn cael pori,
aʼr rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel.
Ond bydda iʼn defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn,
a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.
31Udwch wrth y giatiau a sgrechian yn y ddinas;
mae Philistia i gyd mewn dychryn!
Achos mae cwmwl yn dod oʼr gogledd,
a does neb yn ei rengoedd yn llusgoʼi draed.
32Beth ydyʼr ateb i negeswyr y genedl?
Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff,
a bod lloches yno iʼw bobl anghenus.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015