Skip to main content

1 Pedr 3.8–18a Bendithiwch heb felltithio byth (15 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Pedr 3

Mae Pedr yn benodol iawn ynglŷn â sut y dylem ymateb pan gawn ein camfarnu a phan fydd rhywrai’n ymosod arnom. Gall yr ymosodiadau hyn ddod o du allan i’r gymdeithas o gredinwyr, ond mae’n dechrau’r adran hon trwy erfyn ar Gristnogion i ‘gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd' (adnod 8). Mae yna anghytuno ymhlith credinwyr hefyd. 

Er hynny, meddai, yn hytrach na cheisio trechu trwy ddadlau, gwawdio neu ddenu rhagor o bobl ar ein hochr, dylem eu bendithio. Tydi hyn ddim yn golygu y dylem ildio pan fydd rhywrai’n ymosod arnom oherwydd ein ffydd – ‘Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi,' meddai, 'Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ddangos atyn nhw...' (15–16).

Heddiw, rydym yn wynebu heriau penodol. Mae llawer wedi colli parch tuag at Gristnogaeth, yn rhannol oherwydd ein methiannau ni’n hunain ond hefyd oherwydd ymosodiadau ffasiynol ar y ffydd. Gall fod yn anodd aros yn hyderus yn yr hyn a gredwn os ydym yn teimlo ein bod yn lleiafrif sydd dan warchae; mae’n demtasiwn naill ai i encilio, neu i fod yn amddiffynnol ac yn anghyfeillgar. Mae hyn yn demtasiwn neilltuol yn oes y cyfryngau cymdeithasol, pan fydd ateb miniog neu danllyd mor hawdd i’w bostio. Mae Pedr yn galw arnom i fod yn ras-lawn. Os bydd rhywun yn ymosod arnom, boed i hynny fod am y rhesymau cywir; a phan ddigwydd hyn, gadewch i ni gofio y cafodd Iesu ei groeshoelio, ac i’w efelychu ef yn ein bywydau (adnod 18). 

Gweddi

Gweddi

Dduw, rho i mi hyder ynot ti pan deimlaf dan warchae ac ar fy mhen fy hun. Helpa fi i ymateb i feirniadaeth neu ymosodiad gyda gras a dewrder, ac i geisio bendithio’r rhai sy’n fy ngwrthwynebu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible