No themes applied yet
Pobl Israel a Baal-peor
1Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim, dymaʼr dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. 2Roedd y merched wediʼu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhwʼn gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. 3Cyn pen dim, roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltioʼn lân gyda phobl Israel, 4a dyma feʼn dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestioʼr rhai sydd wedi arwain y drwg yma, aʼu lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn iʼr ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.” 5Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddioʼr dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” 6Wrth iddo ddweud hyn, a phobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid iʼr gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. 7A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, 8a mynd ar ôl y dyn iʼr babell. A dyma feʼn gwthioʼr waywffon drwyʼr ddau ohonyn nhw – drwyʼr dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dymaʼr pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. 9Roedd 24,000 o bobl wedi marw oʼr pla.
10Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 11“Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy llid yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosto i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. 12Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e; 13ymrwymiad mai fe aʼi ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethauʼn iawn rhwng Duw a phobl Israel.” 14Enwʼr dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gydaʼr ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon. 15Ac enwʼr ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian.
16A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 17“Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, aʼu dinistrio nhw. 18Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un oʼu tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015