Skip to main content

1 Pedr 4.1–11: Carwch beth bynnag (16 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Pedr 4

Mae Pedr yn nodi sut ddylai bywydau credinwyr fod o’i gymharu â’r hyn a wêl o’i gwmpas ym mywydau’r ‘paganiaid’ – y rhai nad oeddent yn Iddewon ond yn addoli hen dduwiau a duwiesau Groeg a Rhufain neu dduwiau’r Dwyrain. Nid oedd yr un o’r duwiau hyn yn cynnig unrhyw fframwaith moesol go iawn ar gyfer byw; roeddent yn debyg i fodau dynol, ond yn gryfach.

Ni ddylem fod yn rhy barod i gondemnio bywydau pobl eraill heddiw, oherwydd nad ydynt yn gredinwyr. Mae syniadaeth a ysbrydolwyd gan Gristnogaeth am dda a drwg wedi treiddio mewn i ffyrdd ein cymdeithas o feddwl prun ai yw anghredinwyr heddiw yn ei sylweddoli neu beidio. Ond eto: dylai Cristnogion, meddai Pedr, fod yn wahanol. Rydym i fyw’n well (adnod 3).

Er hynny, mae’n realistig ynghylch ein cyfyngiadau, sy’n esbonio pam fod gennym adnod 8: ‘Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.’ Mae’n gwybod na fyddwn bob amser yn byw fel y dylem, ond nid yw ei ateb yn seiliedig ar fformiwla ddeddfol. Mae’n ein cymell – fel awdur 1 Ioan – i garu ein gilydd (3.11). Os carwn ein gilydd, ni fyddwn yn barnu ein gilydd yn llym. Byddwn hyn yn oed yn ceisio’n galetach gyda phobl nad ydym yn rhy hoff ohonynt nac yn cydymdeimlo â nhw. Os sylwn ar eu ffaeleddau o gwbl, byddai hynny yng nghyd-destun cariad tuag atynt. Yn aml mae hi’n haws condemnio na charu. Mae geiriau Pedr yn wirioneddol heriol, ond maent yn allweddol i sut byddwn yn byw gyda’n gilydd fel credinwyr.

 

Gweddi

Gweddi

Dduw, helpa fi i weld y da mewn pobl yn hytrach na’r drwg. A phan welaf rywbeth nad ydw i’n ei hoffi, helpa fi i’w caru beth bynnag, fel y mae Crist wedi fy ngharu i a rhoi ei hun drosof fi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible