Skip to main content

1 Pedr 5.1–11: ‘Ymddarostyngwch dan law gadarn Duw' (17 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Pedr 5

Ysgrifennwyd llythyr Pedr yng nghyd-destun erledigaeth a threialon. Ond mae wastad ganddo gyd-destun ehangach mewn meddwl: nad yw’r byd hwn gyda’r byd olaf, a bydd y dioddefaint yr ydym yn goddef a’r aberthau rydym yn gwneud nawr yn cael eu coroni gyda gogoniant pan fydd Duw yn barod. Mae hyn yn wir ar gyfer arweinwyr eglwysi hefyd. Mae Pedr yn pryderu yn arbennig i ddweud na ddylent ‘lordio hi dros’ eu praidd (adnod 3) ond i fod yn esiampl iddynt. Mae gostyngeiddrwydd yn allweddol, os ydy rywun yn arwain eglwys neu beidio (adnod 5). Mae’r llinell, ‘Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi’ (adnod 7) yn gyngor sy’n cynnig cysur ar gyfer unrhyw sefyllfa, ond yma mae’n golygu nad ydym i ymdrechu ar gyfer safle neu statws – bydd Duw yn gofalu am hynny ei hun. Gwir fugail yw bugail gostyngedig, ac y mae eu gwobr am wasanaeth ffyddlon i’w gael yn y nefoedd. Mae hyn yn wir i bawb ohonom. Y mae gostyngeiddrwydd yn cwmpasu bywyd y Cristion. Yng nghyfnod Pedr, nid oedd Cristnogion yn bwerus nac yn cael eu hedmygu, ond yn hytrach, yn wan ac yn cael eu dirmygu. Dywed Pedr pan maent wedi dioddef ‘am ychydig’, bydd Duw yn eu gwobrwyo (adnod 10).

Pan mae Cristnogion wedi bod yn y mwyafrif, gydag awenau pŵer yn eu dwylo, yn aml nid yw hyn wedi mynd yn dda: rydym wedi gormesu ac erlid ar bobl hefyd. Mae Pedr yn ein hatgoffa ein bod ni i gyd i fod yn weision, yn ostyngedig o flaen Duw, nid yn ceisio dyrchafiad ein hunain ond daioni i eraill.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio ymborthi ar edmygedd eraill, ond ar Grist, bara’r bywyd. Boed i mi fod yn wylaidd fel yr oedd Iesu’n wylaidd, gan ymddiried ynot i fy nyrchafu yn dy amser di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible