Author: Bible Society, 9 May 2017
Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am yr Ysbryd Glân?
Dywed Iesu mai, “Ysbryd yw Duw” (Ioan 4.24), a thrwy tudalennau’r Beibl cyfarfyddwn ef yn Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glân. Mae’r darlun geiriol o’r Ysbryd yn ‘ymsymud ar wyneb y dyfroedd’ (Genesis 1.1-3) yn cyfleu parodrwydd yr Ysbryd at waith y Tad y Crëwr, a’r Mab y Gair. Mae’r geiriau Beiblaidd yn dangos natur deinamig yr Ysbryd, geiriau sy’n cyfleu ystyr ‘gwynt’, ‘anadl’ ac ‘einioes’ / ‘ysbryd’.
Yn yr HD fe’i gwelwn yn dod ar unigolion i’w nerthu neu eu cymhwyso ar gyfer tasg arbennig, megis yn hanes Besalel (Exodus 35.1d), Samson (Barnwyr 14.6), a Saul (1 Sam 10.10).
Down ar draws yr Ysbryd yn eglurach yn y TN. Mae ar waith yn hanes y geni gwyrthiol: “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi” gydag ail ran y cwpled yn ddisgrifiadol o bwy a beth yw’r Ysbryd. Adeg bedydd Iesu daw’r Ysbryd i lawr ar ffurf colomen i’w lenwi, ac yna mae’n ei yrru i’r anialwch (Marc 1.12) ac wedi ei brofi mae’n dychwelyd ‘yn nerth yr Ysbryd’ i gychwyn ei weinidogaeth. Yn Ioan 14-16 mae Iesu yn sôn am yr Ysbryd fel Eiriolwr sy’n ein harwain i’r gwirionedd amdano.
Wedi ei atgyfodiad daw’r addewid sicr y caiff y rhai sy’n credu yn Iesu dderbyn o’i Ysbryd yn llawn i fod yn dystion iddo (Actau 1.6-8) a’r cyflawniad ar ddydd y Pentecost. Yna fe welwn yr Ysbryd ar waith drwy lyfr yr Actau a’r Epistolau ym mywydau y credinwyr.
• Ystyriwch waith yr Ysbryd yn eich sancteiddio: 2 Thes. 2.13; 1 Pedr 1.2; Luc 1.75
• Os cafodd Iesu ei lenwi â’r Ysbryd pa faint mwy yw ein hangen ni? Gweddïwch yr adnodau hyn: Effesiaid 1.17-23; 5.18, ar i Dduw eich llenwi chwi â’r Ysbryd.
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Hywel Rhys
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: