No themes applied yet
Pobl Israel yn gaethion yn yr Aifft
1Dyma enwau meibion Israel, aeth iʼr Aifft gydaʼu tad Jacob aʼu teuluoedd: 2Reuben, Simeon, Lefi a Jwda, 3Issachar, Sabulon a Benjamin, 4Dan a Nafftali, Gad ac Asher. 5Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd. (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft.)
6Yna dyma Joseff aʼi frodyr aʼr genhedlaeth yna i gyd yn marw. 7Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhwʼn cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwiʼr wlad!
8Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. 9A dyma feʼn dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma! 10Rhaid i ni feddwl beth iʼw wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhwʼn helpuʼn gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc oʼr wlad.”
11Felly dymaʼr Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel aʼu gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, a gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhwʼn adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd iʼr Pharo. 12Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni aʼu casáu nhw go iawn, 13aʼu cam-drin nhw fwy fyth. 14Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth iʼr Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhwʼn gwneud brics a chymysgu morter, ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.
15Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw, 16“Pan fyddwch chiʼn gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd eʼn syth; ond cewch adael iʼr merched fyw.” 17Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wediʼi orchymyn iddyn nhw. Dyma nhwʼn cadwʼr bechgyn yn fyw. 18A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw ato eto, a gofyn, “Beth dych chiʼn wneud? Pam dych chiʼn gadael iʼr bechgyn fyw?” 19A dymaʼr bydwragedd yn ateb, “Dydyʼr gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft – maen nhwʼn gryfion, ac maeʼr plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”
20Felly buodd Duwʼn garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhwʼn mynd yn gryfach ac yn gryfach. 21Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.
22Yna dymaʼr Pharo yn rhoi gorchymyn iʼw bobl: “Mae pob bachgen syʼn cael ei eni iʼr Hebreaid i gael ei daflu i afon Nîl, ond cewch adael iʼr merched fyw.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015