Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Mae fy obsesiwn gyda’r Beibl wir yn deillio o sgwrs gefais pan oeddwn yn 17 oed. ‘Roeddwn ar daith car ac yn bod yn chwilfrydig. ‘Roeddwn eisiau gwybod pam ei fod yn teimlo fel bod Duw yn symud i mewn i ardal mewn diwygiad, ac yna i’r holl angerdd a'r sêl fynd.

‘Y pethau allweddol a ddaeth allan o’r sgwrs honno oedd yr angen am berthynas bersonol â Iesu ac i ddeall gair Duw er mwyn cael maeth ganddo. O'r sgwrs honno, ‘roeddwn yn teimlo fod gen i freuddwyd yn fy meddwl lle ‘roedd Cymru fel gwlad yn llythrennog yn y Beibl, ble ‘roedd pobl yn gweld eu lle yng nghyd-destun stori Duw a’n gwybod beth yw barn Duw am bethau ac yn gallu cymhwyso hynny i'w bywydau eu hunain.

‘Rwyf wedi gorfod dad-bacio beth mae hynny’n ei olygu yn fy mywyd. Mae'n siapio bob dydd oherwydd fy mod yn meddwl yn gyson am sut y gallaf gysylltu gair Duw â’r sefyllfa dwi ynddi. ‘Roeddwn i'n athrawes drama a cherddoriaeth am 19 mlynedd ac ‘roeddwn wrth fy modd yn dysgu, ond mae bod yn medru datgan addewidion Duw i bobl: dyma'’r freuddwyd!

‘Mae’r Beibl yn arwyddocaol i’r byd i gyd, nid Cymru yn unig. Mae'n dod ag iachâd, cyfanrwydd, iachawdwriaeth ac mae'n rhoi cyd-destun i ddynoliaeth. ‘Rwyf wrth fy modd yn cael amser i dreulio mewn gwirionedd. 

‘Yn wirioneddol,’ nid wyf yn credu bydden i fel y ferch 17 mlwydd oed yna wedi cael unrhyw syniad y byddwn yn gwneud beth dwi’n ei wneud yn y pen draw. Nid oes terfyn gyda'r Arglwydd. Does dim rhaid i chi fod yn gymwysedig yng ngolwg y byd. Mae’n rhaid i chi gael calon ar ôl Duw. Gall hynny agor drysau.”

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible