Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
Ychydig wythnosau nôl, o’n yn teithio yn ardal Milan pan wnaeth y Coronafeirws daro. ‘Rodd ymateb yr Eidal yn ddramatig. Aethom o glywed sibrydion i gau pob adeilad cyhoeddus, ysgolion a phrifysgolion o fewn 48 awr. Mi oeddwn yn orief gelf Pinacoteca pan wnaethon ei chau. Felly, wnes adael, mynd adre a hunan-ynysu am bythefnos. “Dim problem”, meddyliais. “’Rwy’n byw ar fy mhen fy hun ac yn aml yn gweithio o adref. Bydd hyn yn ddigon syml.”
Wel, wrth gwrs, ‘doedd e ddim. Mae e ychydig fel pan ma’ pobl yn dweud eu bod yn diflasu yn fuan o ‘daytime TV’ pan maent adre yn sâl. Gan fethu gadael y tŷ, na siarad â phobl a gwneud y cymdeithasu mae’r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol, fe wnes ddiflasu, blino a teimlo’n rhwystredig yn go fuan. Ar ôl pythefnos, wnes sylweddoli ei fod yn barod yn effeithio arnaf yn gorfforol a meddyliol. Fe’m synnwyd pa mor gyflwym ‘roeddwn yn dechrau mynd allan o anadl o ganlyniad i ddiffyg ymarfer corf a pha mor gyflym gwnes ddatblygu teimladau o or-bryder ac iselder. Fe wnes ddechrau or-feddwl, mynd yn emosiynnol a ddim cysgu mor dda. Wnes ddechrau sylweddoli beth mae fel i fod yn gaeth i’r tŷ ac yn ynysig, yn ogystal â’r unigrwydd mae llawer yn ein cymunedau yn teimlo bob dydd.
Mae’r “lockdown”, sy’n anghenrheidiol os ydym am siawns o faeddu’r feirws, yn meddwl fod llawer o’r henoed a bobl fregus yn hunan-ynysu ac yn dioddef unigrwydd ofnadwy. Mae Iesu’n dweud taw’r peth mwyaf gallwn wneud i’n gilydd yw i garu’n cymydog fel ni’n caru’n hunain. Ddim erioed mae hyn wedi bod yn fwy gwir am ein cymuned. Mae’r angen yma wedi cael ei adnabod yng nghynllun gwirfoddoli y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol , mae ganddo gategori arbennig i gymdeithion ffôn i helpu brwydro yn erbyn unigrwydd. Os ydych yn iach, gweddïwch am arweiniad am ffyrdd i helpu eraill os gwelwch chi fod yn dda. Os ydych yn ynysig, gweithiwch allan drefn o weithgareddau a gwnewch ymarfer corff i gadw corff a meddwl iach. Yn uwch na phopeth, trefnwch amser i’ch hunain i weddïo bob dydd.
Mae Salm 18.6 yn dweud, “Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. ‘Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw.” Galwch ar yr Arglwydd a bydd E’n eich clywed chi, achos mae Iesu yn dweud ym Mathew 28.20, “.…Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” Ac os nad ydych yn siwr sut mae gweddïo, trowch at Salm 23, “Yr Arglwyd yw fy mugail”, sydd wedi rhoi gymaint o sicrwydd i lawer dros y blynyddoedd. Erioed yn fy mywyd mae wedi teimlo yn fwy fel ein bod yn cerdded drwy dyffryn cysgod angau. Erioed i mi deimlo yn gryfach yr angen am gysur yr Arglwydd sydd yn dod drwy weddi.
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]