Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cefais fy nharo gan Salm 121 adnodau 3–7, yn enwedig, “Nid yw'n gadael i'th droed lithro” a “yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw”.

‘Roedd fy ngŵr yn ficer yn Essex am 21 mlynedd. Yn 2018 fe wnaethom ni deimlo ei bod yn iawn iddo ymddeol. Ochr yn ochr â hyn dywedodd rhai pobl nad oedd yn edrych yn hollol iawn, ond wnaethom ni ddim cymryd llawer o sylw.

‘Roedd symud i Wiltshire yn 2019 braidd yn drawmatig ac fe roesom y bai am lawer o’i symptomau ar y straen. Doedd o ddim yn cysgu ac fe gollodd bwysau. Wythnos ar ôl symud aethon ni i ŵyl Gristnogol o’r enw New Wine. Ar y diwedd, dywedodd nyrs wrthyf ei bod yn poeni'n fawr amdano ac yn meddwl y dylem weld meddyg. Gofynnodd cwpl o ffrindiau da a oedd o’n iawn, ac roedd ei frawd a ffrind da yn bryderus iawn pan welsant ef adeg y Nadolig.

‘Trefnodd y meddyg sganiau a cheisiodd ddiystyru pethau ond cafodd ofn afael arnom. Ar yr un pryd roedd gennym ymdeimlad ein bod yn nwylo Duw. Dw i'n cofio dweud, “Beth bynnag ydy hyn, mae'r Arglwydd yn gwybod ac mae’n gafael ynom.” A gallaf ddweud ar y pwynt hwnnw daeth tangnefedd i'r ddau ohonom. Bob tro y deuai ofn yn y nos, deuai'r adnod honno hefyd.

‘Pan ddywedodd niwrolegydd wrthym ei fod 100 y cant yn siŵr bod clefyd Parkinson ar fy ngŵr, roedd bron â bod yn rhyddhad. Yna daeth y cyfnod clo ac roedd angen i ni brosesu'r cyfan. Ond dal i ddod yn ôl at Salm 121.5 “Yr Arglwydd yw dy geidwad” a wnaethom ni.

 ‘Ddeunaw mis yn ddiweddarach, mae’r feddyginiaeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddo ac ymarfer corff hefyd. Rydyn ni wedi dysgu byw gydag ef, gan wybod ei fod yn gynyddol ond ei fod yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd.

‘Mae gennym ni fywyd i’w fyw a dydy Duw ddim wedi gorffen gyda ni eto. Gwyddom na fydd bywyd yn union fel y gwnaethom ei ddychmygu ond mae'n dal yn fywyd; Mae Duw gyda ni ynddo, ac mae’n dal yn fywyd defnyddiol a ffrwythlon.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible