Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Treuliais chwe wythnos yn yr ysbyty gyda choluddyn tyllog a bu bron imi farw. Yn ystod yr amser hwnnw dois ar draws Salm 33. Fe'm cynhaliodd ac a'm cadw i fynd.

‘Mae'r adnod gyntaf yn sôn am ganu'n llawen i'r ARGLWYDD. Dw i'n hoffi canu – dw i'n canu yn yr eglwys - ac rydw i wedi cael llawer o ganu yn fy mywyd. Roedd hynny'n gwneud i mi deimlo bod pethau'n mynd i fod yn iawn ac os nad, doedd hynny ddim o bwys oherwydd rydyn ni'n mynd i'r nefoedd.

‘Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod gair yr ARGLWYDD yn wir. Pan feddyliais “Dw i ddim ond newydd oroesi hwn, mae’n mynd i gymryd cryn dipyn o amser i wella a dydw i ddim yn gwybod yn iawn beth sy’n mynd ymlaen,” roedd angen i mi glywed bod Duw yn ffyddlon a bod “y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.”

‘Yr adnodau eraill a gefais yn ddefnyddiol iawn oedd o adnod 6 ymlaen am ryngweithiadau Duw â’r ddaear ac am y modd y “casglodd y môr fel dŵr mewn potel”. Gwnaeth hynny i mi deimlo mai ef sydd â gofal am y greadigaeth ac amdanom ni, ein dyfodol a'n presennol. “Siaradodd, a a digwyddodd y peth” – mae hynny'n wych.

‘Dydw i ddim yn un o’r bobl hyn sy’n credu y bydd Duw yn gwneud popeth yn wych ac yn fendigedig ond rwy’n credu ei fod gyda chi yn y problemau. Rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth rydych chi'n ei ddysgu wrth fynd yn hŷn. “Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD” - helpodd hynny fi i ddal ati trwy'r wythnosau a'r misoedd o adferiad.

‘Doeddwn i byth yn hoff iawn o’r Salmau, efallai oherwydd dydw i ddim yn hoffi barddoniaeth yn fawr iawn. Ond wrth i ni heneiddio rydyn ni'n newid; rydyn ni'n gwerthfawrogi pethau gwahanol, ac rydw i nawr yn gwerthfawrogi'r salmau yn llawer mwy.

‘Mae’n rhaid i mi fod yn ofalus iawn ac mae’n cyfyngu ar fy mywyd. Rwy'n ei chael hi'n anodd cofio, ond mae fy ngŵr yn fy herio. Bu raid i mi fod yn yr ysbyty eto ond roedd y salm yna fel fy maen prawf.

‘Dydi bywyd ddim yn berffaith, ond does dim ots oherwydd dw i’n gwybod bod Duw gyda mi a dyna’r peth pwysig.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible