No themes applied yet
Y bugail syʼn gofalu am ei bobl
Salm Dafydd.
1Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i;
mae gen i bopeth dw i angen.
2Maeʼn mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd,
ac yn fy arwain at ddŵr glân syʼn llifoʼn dawel.
3Maeʼn rhoi bywyd newydd i mi,
ac yn dangos i miʼr ffordd iawn i fynd.
Ydy, mae eʼn enwog am ei ofal.
4Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,
fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.
Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5Rwyt tiʼn paratoi gwledd i mi
ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.
Rwyt tiʼn tywallt olew ar fy mhen.
Mae gen i fwy na digon!
6Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon
gyda mi weddill fy mywyd.
A byddaf yn byw eto yn nhŷʼr ARGLWYDD
am byth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015