No themes applied yet
Iesuʼn mynd i Ŵyl y Pebyll
1Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw o Jwdea yn fwriadol am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. 2Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll7:2 gw. Lefiticus 23:33-43; Deuteronomium 16:13-17 (un arall o wyliauʼr Iddewon) yn agos, 3dyma frodyr Iesuʼn dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, iʼr dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau rwyt tiʼn eu gwneud! 4Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu oʼr golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau yma, dangos dy hun i bawb!” 5(Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.)
6“Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. 7Dydyʼr byd ddim yn galluʼch casáu chi, ond maeʼn fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn maeʼn ei wneud yn ddrwg. 8Ewch chi iʼr Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd iʼr Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” 9Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea.
10Ond ar ôl iʼw frodyr fynd iʼr Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth ynoʼn ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. 11Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw. 12Roedd llawer o siarad amdanoʼn ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. 13Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.
Iesuʼn dysgu yn yr Ŵyl
14Roedd hi dros hanner ffordd drwyʼr Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. 15Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut maeʼr dyn ymaʼn gwybod cymaint heb fod wedi cael ei hyfforddi?”
16Atebodd Iesu, “Dw i ddim yn dysgu ohono iʼn hun. Maeʼn dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. 17Bydd pwy bynnag syʼn dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw iʼn ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. 18Maeʼr rhai syʼn siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhwʼu hunain, ond maeʼr un syʼn gweithio i anrhydedduʼr un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. 19Oni wnaeth Moses roiʼr Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chiʼn ufudd iʼr Gyfraith. Pam dych chiʼn ceisio fy lladd i?”
20“Mae cythraul yn dy wneud diʼn wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy syʼn ceisio dy ladd di?”
21Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth7:21 un wyrth: Iacháu y dyn wediʼi barlysu – gw. 5:1-18. ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! 22Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadauʼr genedl7:22 a Lefiticus 12:3; b Genesis 17:10), a dych chiʼn enwaedu bachgen ar y Saboth. 23Nawr, os ydyʼn iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? 24Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
Ai Iesu ydyʼr Meseia?
25Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydyʼr dyn maen nhwʼn ceisioʼi ladd? 26Mae e yma yn siarad yn gwbl agored, a dŷn nhwʼn dweud dim! Tybed ydyʼr awdurdodau wedi dod iʼr casgliad mai fe ydyʼr Meseia? 27Ond wedyn, dŷn niʼn gwybod o ble maeʼr dyn ymaʼn dod; pan ddawʼr Meseia, fydd neb yn gwybod o ble maeʼn dod.” 28A dyma Iesu, oedd yn dysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, yn cyhoeddiʼn uchel, “Ydych chiʼn fy nabod i? Ydych chiʼn gwybod o ble dw iʼn dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw go iawn sydd wedi fy anfon i, ond dych chi ddim yn ei nabod e. 29Dw iʼn ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydyʼr un anfonodd fi.”
30Pan ddigwyddodd hyn dyma nhwʼn ceisioʼi ddal, ond lwyddodd neb iʼw gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. 31Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddawʼr Meseia, fydd eʼn gallu gwneud mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”
32Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dymaʼr prif offeiriaid aʼr Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch oʼr deml iʼw arestio.
33Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw iʼn mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. 34Byddwch chiʼn edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”
35Meddaiʼr arweinwyr Iddewig, “I ble maeʼr dyn yma ar fin mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy eʼn mynd at ein pobl ni syʼn byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? 36Beth maeʼn eʼn ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chiʼn edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chiʼn methu dod i ble bydda i’?”
Ffrydiau o ddŵr syʼn rhoi bywyd
37Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesuʼn sefyll ac yn cyhoeddiʼn uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. 38Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr syʼn rhoi bywyd yn llifo oʼr rhai hynny!’”7:38 Bydd ffrydiau … hynny: cyfeiriad at Nehemeia 9:15,19-20 (neu Eseia 55:1, 58:11 neu Sechareia 14:8) Maeʼr adnodau yma yn edrych yn ôl at hanesion y dŵr yn dod oʼr graig yn Exodus 17:1-7; Numeri 20:1-13. 39(Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wediʼi anrhydeddu.)
40Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai oʼr bobl yn dweud, “Y Proffwyd7:40 Proffwyd: gw. y nodyn ar 1:21. soniodd Moses amdano ydyʼr dyn yma, siŵr o fod!” 41Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? 42Onid ydyʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deuluʼr Brenin Dafydd ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”7:42 cyfeiriad at 2 Samuel 7:12; Salm 89:3-4 a Micha 5:2 43Felly roedd y dyrfa wediʼi rhannu – rhai oʼi blaid ac eraill yn ei erbyn. 44Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb iʼw gyffwrdd.
Yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod Iesu
45Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid aʼr Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”
46“Does neb erioed wedi siarad fel y dyn yma,” medden nhw.
47“Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wediʼch twyllo chi hefyd?” 48“Oes unrhyw un oʼr arweinwyr neu oʼr Phariseaid wedi credu ynddo? 49Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma syʼn gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
50Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesuʼn gynharach), a gofynnodd, 51“Ydyʼn Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf, er mwyn darganfod y ffeithiau?”
52Medden nhw wrtho, “Wyt tiʼn dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn iʼr peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”
Dydy Ioan 7:53–8:11 ddim yn y llawysgrifau cynharaf
53Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015