No themes applied yet
1Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.
Y wraig wediʼi dal yn godinebu
2Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu oʼi gwmpas, ac eisteddodd Iesu iʼw dysgu nhw. 3Tra oedd yn dysguʼr bobl dyma rai oʼr arbenigwyr yn y Gyfraith aʼr Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhwʼn ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb, 4ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, maeʼr wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi. 5Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd oʼr fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig.8:5 cyfeiriad at Lefiticus 20:10 a Deuteronomium 22:22-24 Beth wyt tiʼn ei ddweud am y mater?” 6(Roedden nhwʼn defnyddioʼr cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesuʼn plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gydaʼi fys yn y llwch ar lawr. 7Wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chiʼr garreg gyntaf ati hi.” 8Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr.
9Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dymaʼr dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, aʼr lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, aʼr wraig yn dal i sefyll oʼi flaen. 10Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
11“Nac oes syr, neb” meddai.
“Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”8:11 Dydy adn. 1-11 ddim yn rhai llawysgrifau. Mewn llawysgrifau eraill maen nhwʼn ymddangos ar ôl 7:36 neu 21:25 neu Luc 21:38, gyda gwahaniaethau bach yn y geiriad.
Iesu, golauʼr byd
12Pan oedd Iesuʼn annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golauʼr byd. Bydd gan y rhai syʼn fy nilyn i olau iʼw harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
13Ond dymaʼr Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
14Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw iʼn tystio ar fy rhan fy hun, maeʼr dystiolaeth ynaʼn ddilys. Dw iʼn gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw iʼn mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw iʼn mynd. 15Dych chiʼn barnu yn ôl safonau dynol; dw iʼn barnu neb felly. 16Os dw iʼn barnu, dw iʼn dyfarnuʼn gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Maeʼr Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi. 17Mae eich Cyfraith chiʼn dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys.8:17 cyfeiriad at Deuteronomium 17:6; 19:15 18Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, aʼr Tad ydyʼr tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.”
19“Ble mae dy dad di?” medden nhw.
“Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chiʼn gwybod pwy ydw i, byddech chiʼn nabod fy Nhad i hefyd.” 20Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian iʼr drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod.
21Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw iʼn mynd i ffwrdd. Byddwch chiʼn edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw iʼn mynd.”
22Gwnaeth hyn iʼr arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy eʼn mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam maeʼn dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw iʼn mynd’?”
23Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chiʼn dod oʼr ddaear; dw iʼn dod oddi uchod. Oʼr byd hwn dych chiʼn dod; ond dw i ddim yn dod oʼr byd hwn. 24Dyna pam ddwedais i y byddwch chiʼn marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chiʼn marw yn eich pechod.”
25“Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wediʼi ddweud oʼr dechrau,” atebodd Iesu. 26“Mae gen i lawer iʼw ddweud amdanoch chi, a digon iʼw gondemnio. Maeʼr un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wediʼi glywed ganddo fe dw iʼn ei gyhoeddi iʼr byd.”
27Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad. 28Felly dwedodd Iesu, “Pan fyddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny,8:28 fy nghodi i … i fyny: gw. nodyn ar 7:39. dyna pryd byddwch chiʼn gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth maeʼr Tad wediʼi ddysgu i mi. 29Maeʼr un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth syʼn ei blesio.”
Y gwirionedd syʼn rhoi rhyddid
30Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra oedd yn siarad. 31Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wediʼi ddangos i chi, dych chiʼn ddilynwyr go iawn i mi. 32Byddwch yn dod i wybod beth syʼn wir, a bydd y gwirionedd hwnnwʼn rhoi rhyddid i chi.”
33“Dŷn niʼn ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt tiʼn ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chiʼn cael bod yn rhydd’?”
34Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb syʼn pechu wediʼi gaethiwo gan bechod. 35Dydy caethwas ddim yn perthyn iʼr teulu maeʼn ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. 36Felly os ydyʼr Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn. 37Dw iʼn gwybod eich bod chiʼn ddisgynyddion i Abraham, ond dych chiʼn ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw iʼn ddweud go iawn. 38Dw iʼn cyhoeddi beth dw i wediʼi weld gydaʼr Tad. Dych chiʼn gwneud beth maeʼch tad chiʼn ei ddweud wrthoch chi.”
39“Abraham ydyʼn tad ni,” medden nhw.
“Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chiʼn gwneud beth wnaeth Abraham. 40Yn lle hynny dych chiʼn benderfynol oʼm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddiʼr gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly! 41Na, gwneud y pethau maeʼch tad chiʼn eu gwneud dych chi.”
“Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydyʼr unig Dad sydd gynnon ni.”
Plant y diafol
42“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chiʼn fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. 43Pam nad ydy be dw iʼn ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. 44Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth maeʼch tad eisiau. Llofrudd oedd e oʼr dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle iʼr gwir ynddo. Pan maeʼn dweud celwydd, maeʼn siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! 45Ond dw iʼn dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! 46Oes unrhyw un ohonoch chiʼn gallu profi mod iʼn euog o bechu? Felly os dw iʼn dweud y gwir pam dych chiʼn gwrthod credu? 47Mae pwy bynnag syʼn perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
Iesu ac Abraham
48“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn niʼn iawn. Mae cythraul ynot ti!”
49“Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw iʼn ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chiʼn fy sarhau i. 50Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un syʼn ei geisio, a fe ydyʼr un syʼn barnu. 51Credwch chi fi – fydd pwy bynnag syʼn dal gafael yn yr hyn dw i wediʼi ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”
52Pan ddwedodd hyn dymaʼr arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Maeʼn gwbl amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, aʼr proffwydi hefyd, a dyma tiʼn honni y bydd y rhai syʼn dal gafael yn yr hyn rwyt tiʼn ei ddysgu ddim yn marw. 53Wyt tiʼn fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, aʼr proffwydi hefyd! Pwy wyt tiʼn feddwl wyt ti?”
54Atebodd Iesu, “Os dw iʼn canmol fy hun, dydyʼr clod ynaʼn golygu dim byd. Fy Nhad syʼn fy nghanmol i, yr un dych chiʼn hawlio ei fod yn Dduw i chi. 55Ond dych chi ddim wedi dechrau dod iʼw nabod; dw i yn ei nabod eʼn iawn. Petawn iʼn dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innauʼn gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth maeʼn ei ddangos i mi. 56Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn iʼn dod; feʼi gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.”
57“Ti ddim yn hanner cant eto!” meddaiʼr arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt tiʼn honni dy fod di wedi gweld Abraham?”
58Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw iʼn bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” 59Pan ddwedodd hyn, dyma nhwʼn codi cerrig iʼw taflu ato, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan oʼr deml.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015