No themes applied yet
Bwydoʼr pum mil
(Mathew 14:13-21; Marc 6:30-44; Luc 9:10-17)
1Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). 2Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld ei arwyddion gwyrthiol yn iacháu pobl oedd yn sâl. 3Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gydaʼi ddisgyblion. 4Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliauʼr Iddewon) yn agos.
5Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn niʼn mynd i brynu bwyd iʼr bobl yma i gyd?” 6(Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesuʼn gwybod beth roedd eʼn mynd iʼw wneud.)
7Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn6:7 ffortiwn: Maeʼr Groeg yn dweud “200 darn arian”, sef bron cyflog blwyddyn. i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!”
8Yna dyma un oʼr disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, 9“Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd6:9 torth haidd Torthau bach crwn fflat. a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!”
10Dwedodd Iesu, “Gwnewch iʼr bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dymaʼr dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. 11Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu iʼr bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gydaʼr pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau.
12Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” 13Felly dyma nhwʼn eu casglu a llenwi deuddeg basged gydaʼr tameidiau oʼr pum torth haidd oedd heb eu bwyta.
14Ar ôl iʼr bobl weld yr arwydd gwyrthiol yma, roedden nhwʼn dweud, “Maeʼn rhaid mai hwn ydyʼr Proffwyd6:14 y Proffwyd: gw. y nodyn ar 1:21. ddwedodd Moses ei fod yn dod iʼr byd.” 15Gan fod Iesuʼn gwybod eu bod nhwʼn bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fynyʼr mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.
Iesuʼn cerdded ar y dŵr
(Mathew 14:22-27; Marc 6:45-52)
16Pan oedd hiʼn dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, 17a mynd i gwch i groesiʼr llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hiʼn dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. 18Roedd y tonnauʼn dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. 19Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, 20ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” 21Yna roedden nhwʼn fodlon ei dderbyn iʼr cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhwʼn anelu ati.
22Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw iʼr llyn. Roedden nhwʼn gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. 23Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell oʼr lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl iʼr Arglwydd roi diolch. 24Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, naʼi ddisgyblion chwaith, dyma nhwʼn mynd i mewn iʼr cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.
Iesu, Baraʼr Bywyd
25Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesiʼr llyn, dyma nhwʼn gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?”
26Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chiʼn edrych amdana i am eich bod wedi bwytaʼr torthau a llenwiʼch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. 27Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd syʼn difetha, ond i gael y bwyd syʼn para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn syʼn rhoiʼr bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.”
28Felly dyma nhwʼn gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?”
29Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wediʼi anfon.”
30Felly dyma nhwʼn gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn niʼn credu ynot ti wedyn. Beth wnei di? 31Cafodd ein hynafiaid y manna iʼw fwyta yn yr anialwch. Maeʼn dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara oʼr nefoedd iddyn nhw iʼw fwyta.’”6:31 Salm 78:24 (syʼn cyfeirio at yr hanes yn Exodus 16:4-36; neu Nehemeia 9:15) (gw. hefyd Salm 105:40)
32Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara oʼr nefoedd i chi. Ond mae fy Nhad yn rhoi bara oʼr nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. 33Bara Duw ydyʼr un syʼn dod i lawr oʼr nefoedd ac yn rhoi bywyd iʼr byd.”
34“Syr,” medden nhw, “rhoʼr bara hwnnw i ni o hyn ymlaen.”
35Yna dyma Iesuʼn datgan, “Fi ydyʼr bara syʼn rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag syʼn credu ynof fi ddim yn sychedu. 36Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi ddim yn credu. 37Bydd pawb maeʼr Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un syʼn dod ata i. 38Dw i ddim wedi dod i lawr oʼr nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth maeʼr hwn anfonodd fi eisiau. 39A dyma beth maeʼr hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda iʼn colli neb oʼr rhai mae wediʼu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.6:39 y dydd olaf: Pan fydd Duw yn barnu pawb. 40Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb syʼn edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda iʼn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
41Yna dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydyʼr bara ddaeth i lawr oʼr nefoedd.” 42“Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn niʼn nabod ei dad aʼi fam. Sut maeʼn gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr oʼr nefoedd’?”
43“Stopiwch gwyno amdana i ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu. 44“Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 45Maeʼn dweud yn ysgrifauʼr Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’6:45 Eseia 54:13 Mae pawb syʼn gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. 46Ond does neb wedi gweld y Tad ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw – neb arall. 47Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag syʼn credu. 48Fi ydyʼr bara syʼn rhoi bywyd. 49Er bod eich hynafiaid wedi bwytaʼr manna yn yr anialwch, buon nhw farw. 50Ond maeʼr bara ymaʼn dod i lawr oʼr nefoedd iʼw fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. 51A fi ydyʼr bara syʼn rhoi bywyd, wedi dod i lawr oʼr nefoedd. Bydd pwy bynnag syʼn bwytaʼr bara yma yn byw am byth. Y bara fydda iʼn ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn iʼr byd gael byw.”
52Dymaʼr arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeoʼn filain gydaʼi gilydd. “Sut all y dyn roi ei gnawd i ni iʼw fwyta?” medden nhw. 53Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. 54Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny syʼn bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. 55Ydy, mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn aʼm gwaed i yn ddiod go iawn. 56Maeʼr rhai syʼn bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros mewn perthynas agos gyda mi, a dw iʼn aros mewn perthynas agos gyda nhw. 57Yn union fel maeʼr Tad byw wedi fy anfon i, a dw iʼn byw o achos y Tad, bydd yr un syʼn bwydo arna i yn byw oʼm hachos i. 58Maeʼn wahanol iʼr bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr oʼr nefoedd, a bydd pwy bynnag syʼn ei fwyta yn byw am byth.”
Llawer o ddisgyblion yn troi cefn ar Iesu
59Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. 60Ond ymateb llawer oʼi ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Maeʼn dweud pethau rhy galed. Pwy syʼn mynd i wrando arno?”
61Roedd Iesuʼn gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chiʼn mynd i droi cefn arna i? 62Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i lle roeddwn i oʼr blaen? 63Ysbryd Duw syʼn rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wediʼi ddweud wrthoch chi yn dod oʼr Ysbryd ac yn rhoi bywyd. 64Ac eto mae rhai ohonoch chiʼn gwrthod credu.” (Roedd Iesuʼn gwybod oʼr dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd iʼw fradychu e.) 65Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoiʼr gallu iddyn nhw ddod.”
66Ar ôl hyn dyma nifer oʼi ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopioʼi ddilyn.
67“Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl.
68“Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt tiʼn ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. 69Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn niʼn gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.”
70Ond yna dyma Iesuʼn dweud, “Onid fi ddewisodd chiʼr deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chiʼn ddiafol!” 71(Jwdas, mab Simon Iscariot oedd eʼn ei olygu, yr un oedd yn mynd iʼw fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un oʼr deuddeg disgybl.)
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015