No themes applied yet
Dyffryn o Esgyrn Sychion yn dod yn fyw
1Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dymaʼi Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn. 2Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwyʼi canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd. 3Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith iʼr esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fiʼn ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti syʼn gwybod hynny.” 4Yna dyma feʼn gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. 5Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw iʼn mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw. 6Dw iʼn mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda iʼn rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chiʼn dod yn ôl yn fyw. Byddwch chiʼn gwybod wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD.’”
7Felly, dyma fiʼn proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fiʼn clywed sŵn ratlo, a dymaʼr esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl iʼw le. 8Wrth i mi edrych dyma fiʼn gweld gewynnau a chyhyrauʼn dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.
9A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda iʼr anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, oʼr pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’” 10Felly, dyma fiʼn proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhwʼn dechrau anadlu. Roedden nhwʼn fyw! A dyma nhwʼn sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr.
11Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydyʼr esgyrn yma. Maen nhwʼn dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wediʼn taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’ 12Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw iʼn mynd iʼch arwain chi yn ôl i wlad Israel! 13Pan fydda iʼn agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chiʼn deall wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD. 14Dw iʼn mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw iʼn mynd iʼch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chiʼn deall wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD. Mae beth dw iʼn ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddaiʼr ARGLWYDD.
Pobl Dduw yn un eto
15Dymaʼr ARGLWYDD yn rhoiʼr neges yma i mi: 16“Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‘Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‘ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.’ 17Dal nhw gydaʼi gilydd yn dy law, fel un ffon. 18Yna pan fydd dy bobl yn gofyn, ‘Wyt ti am esbonio i ni beth rwyt tiʼn wneud?’ 19Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn mynd i gymryd y ffon syʼn cynrychioli Joseff aʼr llwythau sydd gydag e, aʼi chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhwʼn un ffon yn fy llaw i.’ 20Dal y ffyn rwyt ti wedi ysgrifennu arnyn nhw oʼu blaenau, 21a dweud fel yma, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn mynd i gasglu pobl Israel oʼr gwledydd lleʼr aethon nhw. Dw iʼn mynd iʼw casglu nhw oʼr gwledydd hynny, a dod â nhw adre iʼw gwlad eu hunain. 22Dw iʼn mynd iʼw gwneud nhwʼn un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wediʼu rhannuʼn ddwy wlad ar wahân. 23Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw iʼn mynd iʼw hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw iʼn mynd iʼw glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. 24Fy ngwas Dafydd fydd yn frenin arnyn nhw. Yr un bugail fydd ganddyn nhw i gyd. Byddan nhwʼn ufudd i mi, ac yn gwneud beth syʼn iawn.
25“‘Byddan nhwʼn byw ar y tir rois i iʼm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhwʼn cael byw yno, aʼu plant, aʼu disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth. 26Bydda iʼn gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth.37:26 Eseia 55:3; Jeremeia 31:31; 32:40; Eseciel 16:60 Bydda iʼn eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud iʼr boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth. 27Bydda iʼn byw gyda nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. 28Pan fydd fy nheml yn eu canol nhw am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi cysegru Israel i mi fy hun.’”37:24-28 Maeʼr addewidion yma yn debyg iʼr bendithion wnaeth Duw eu haddo iʼw bobl ffyddlon yn Lefiticus 26:1-13.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015