No themes applied yet
Bendithion ar Fynyddoedd Israel
1“Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo wrth fynyddoedd Israel, a dweud: ‘Israel fynyddig, gwrando ar neges yr ARGLWYDD: 2Maeʼr gelyn wedi bod yn dy wawdio di. “Ha! ha!” medden nhw, “Maeʼr bryniau hynafol ynaʼn perthyn i ni bellach!”’ 3Felly ddyn, proffwyda a dweud: ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae dy elynion wedi ymosod arnat ti o bob cyfeiriad, yn dinistrio ac yn dy gam-drin di. Mae gwledydd wedi dwyn dy dir di. Mae pobl yn hel straeon ac yn gwneud jôcs amdanat ti. 4Felly Israel, gwrando ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth y mynyddoedd aʼr bryniau, y dyffrynnoedd aʼr ceunentydd, yr holl adfeilion aʼr trefi gwag sydd wediʼu dinistrio aʼi dilorni gan y gwledydd sydd ar ôl o dy gwmpas – 5Ie, dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn wyllt gydaʼr gwledydd yna ac wedi siarad yn gryf yn eu herbyn nhw. Yn arbennig Edom, sydd wedi bod mor sbeitlyd tuag ata i. Roedd hi wrth ei bodd yn cymryd y tir oddi arna i.’
6“Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd aʼr bryniau, y dyffrynnoedd aʼr ceunentydd, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn wyllt gydaʼr gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhwʼn dy fychanu di. 7Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn addo i ti – mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod!
8“‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythauʼn pwysoʼn drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhwʼn dod yn ôl adreʼn fuan! 9Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw iʼn mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydauʼn cael eu plannu. 10Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwyʼr wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, aʼr adfeilion yn cael eu hadeiladu. 11Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethauʼn well arnat ti nag erioed oʼr blaen. Byddwch chiʼn gwybod wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD.36:9-11 Lefiticus 26:9 12Bydda iʼn dod âʼm pobl Israel yn ôl i bob rhan oʼr wlad. Byddan nhwʼn etifedduʼr tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto.
13“‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad syʼn dinistrioʼi phobl ei hun – fydd dim plant ar ôl yno!” 14Ond fyddwch chi ddim yn dinistrioʼch pobl a cholliʼch plant o hyn ymlaen, meddaiʼr Meistr, yr ARGLWYDD. 15Fydda i ddim yn gadael iʼr gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colliʼch plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Duw ar waith drwy Hanes Israel
16Dymaʼr ARGLWYDD yn rhoiʼr neges yma i mi: 17“Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygruʼr wlad drwyʼr ffordd roedden nhwʼn ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan maeʼn dioddef oʼr misglwyf. 18Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, am eu bod nhw wedi tywallt gwaed a llygruʼr wlad gydaʼu heilunod. 19Dw i wediʼu gyrru nhw ar chwâl drwyʼr gwledydd. Dw i wediʼu cosbi nhw am y ffordd roedden nhwʼn ymddwyn.
20“Ond wedyn, roedden nhwʼn dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’ 21Rôn iʼn poeni am fy enw da. Roedd yn cael ei sarhau gan bobl Israel ble bynnag roedden nhwʼn mynd.
22“Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da – yr enw dych chi wediʼi sarhau ym mhobman. 23Dw iʼn mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i – yr enw dych chi wediʼi sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydyʼr ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.
24“‘Bydda iʼn eich casglu chi a dod â chi allan oʼr gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl iʼch gwlad eich hunain. 25Bydda iʼn taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chiʼn cael eich glanhau o bopeth syʼn eich gwneud chiʼn aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau. 26Bydda iʼn rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddaiʼn cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi. 27Dw iʼn mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chiʼn ufudd i mi ac yn gwneud beth syʼn iawn.36:27 Eseciel 11:19-20; Jeremeia 31:31-34 28Wedyn byddwch chiʼn cael byw yn y wlad rois i iʼch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi.36:28 Exodus 6:7 29Bydda iʼn eich achub chi o ganlyniadauʼr holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddaiʼn gwneud iʼr caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi. 30Bydd digonedd o ffrwythauʼn tyfu ar y coed, a bydd cnydauʼr caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth etoʼn gorfod cywilyddio am fod y gwledydd oʼch cwmpas chiʼn eich gweld chiʼn diodde o newyn. 31Byddwch chiʼn edrych yn ôl ac yn cofioʼr holl bethau drwg wnaethoch chi, ac yn teimlo cywilydd ofnadwy am yr holl bechodau aʼr pethau ffiaidd wnaethoch chi. 32Ond dw i eisiau i hyn fod yn glir: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, meddaiʼr ARGLWYDD, y Meistr. Dylech chi fod â chywilydd go iawn oʼr ffordd dych chi wedi ymddwyn!
33“‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda iʼn eich glanhau chi oʼch pechodau, bydda iʼn dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto. 34Bydd y tir anial yn cael ei drin aʼi aredig eto, yn lle bod pawb yn ei weld wedi tyfuʼn wyllt. 35Bydd pobl yn dweud, “Maeʼr wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Maeʼr trefi oedd yn adfeilion wediʼu hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!” 36Bydd y gwledydd sydd ar ôl oʼch cwmpas chi yn sylweddoli mai fi sydd wedi achosi iʼr trefi gael eu hadeiladu ac iʼr tir gael ei drin unwaith eto. Fi ydyʼr ARGLWYDD, a bydd beth dw iʼn ddweud yn digwydd!’
37“Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw iʼn mynd i adael i bobl Israel ofyn i mi wneud hyn iddyn nhw. Bydd yna gymaint o bobl ag sydd o ddefaid yn y wlad! 38Bydd fel yr holl ddefaid syʼn cael eu cymryd iʼw haberthu yn Jerwsalem adeg y gwyliau crefyddol! Bydd yr holl drefi oedd yn adfeilion yn llawn pobl unwaith eto! A bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015