Skip to main content

Tosturi Duw tuag at ei bobl sy’n dioddef: Eseia 49 (16 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 49

Yn Eseia 49, mae tosturi Duw tuag at ei bobl sy’n dioddef mor gyfan ac yn gorlifo fel nad oes awgrym o farn bellach. Mae’n bennod am wrthdroi ffawd yn llwyr. Mae’r genedl wedi taro’r gwaelod – wedi’i difetha, dinistrio a’i llyncu (adnod 19) - ond mae Duw yn addo bydd y dyfodol yn llawn gobaith, y tu hwnt i ddychymyg.

Yn eu hanobaith, mae’r bobl ond gweld eu bod yn cael eu gwrthod a’u hanghofio gan Dduw – ac eto mae Duw yn dweud eu bod nhw bob amser yn weladwy iddo, wedi’u harsgrifio ar gledrau ei ddwylo (adnodau 14-16). Maent yn teimlo eu bod mewn profedigaeth ac yn ddiffrwyth, ond yng ngweledigaeth hirdymor Duw, mae eu tir yn llawn disgynyddion (adnod 21). Ni all pobl sydd wedi’u gorchuddio â thywyllwch dioddefaint mawr weld unrhyw ddaioni, ond mae Duw yn codi eu llygaid (adnod 18) ac yn dangos iddynt y posibilrwydd o ffordd drwy hyn a dyddiau gwell i ddod.

Mae’n ddiddorol bod y proffwyd yn siarad am ‘y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled’ (adnod 20). Efallai y byddwn yn ymddiried y gall ffrwythlondeb ddychwelyd ar ôl cyfnod o ddioddefaint dwfn, ond mae’r adnod hon yn awgrymu, heb i ni sylwi arno a heb unrhyw ymdrech ar ein rhan, y gall Duw fod yn gweithio i ddod â gobaith hyd yn oed yng nghanol amseroedd enbyd. Yn ddiweddarach rydym yn gweld y ffrwyth ac, fel yr Israeliaid, rydym yn gofyn tybed o ble gallai’r enedigaeth newydd fod wedi dod (adnod 21).

Mae’r proffwyd yn ein hannog i roi ein hymddiriedaeth lwyr mewn Duw sydd mor dosturiol tuag atom. P’run ai os ydym yn dioddef fel cenedl neu fel unigolion, mae Duw yn addo gobaith inni i’r dyfodol. 

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd, am dy dosturi yn ein trafferthion – yn ddyfnach na chariad mam tuag at ei babi newydd-anedig diymadferth. Cysura’r rhai sy’n galaru, a helpa ni i ymddiried dy fod di gyda ni bob amser a wastad yn gweithio er daioni.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible