Skip to main content

Gwrando fel un sy’n cael ei ddysgu: Eseia 50 (17 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 50

Yn adnod 4 o’r bennod hon, dywed y proffwyd Eseia fod Duw wedi rhoi ‘tafod i mi siarad ar ei ran’ – ond sylwch ei fod hefyd yn dweud wrthym sut y mae’n gwrando ar Dduw ‘fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu’. Mae’r ddau weithgaredd yn gysylltiedig: yn gyntaf mae’n gwrando ac yn dysgu; yna mae’n addysgu eraill. Ac nid yw ei ddysgeidiaeth yn ymenyddol yn unig; mae’n dosturiol ac yn fugeiliol. Mae Eseia ‘wedi dysgu sut i gysuro’r blinedig’. Mae’n ymddangos ei fod yn trosglwyddo’r gynhaliaeth a’r anogaeth a gafodd gan Dduw.

Rydym yn gweld yr un patrwm – derbyn gan Dduw ac yna rhoi i eraill – mewn rhannau eraill o’r Beibl. Yn 2 Corinthiaid 1.3-4, dywed Paul, ‘Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro. Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni’. Hefyd, yn y cyd-destun mwyaf ymarferol, mae Iesu’n dysgu ei ddisgyblion, ‘Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi'ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd’ (Ioan 13.14).   

Os ydym yn dymuno addysgu neu weinidogaethu eraill, yn gyntaf rhaid inni fod yn ddigon gostyngedig i ddysgu a derbyn gweinidogaeth gan Dduw ei hun. Mae angen i’n dysgu fod yn barhaus, hefyd: mae’r proffwyd yn gwrando ar Dduw ‘bob bore’, nid yn achlysurol. Mae’r ddisgyblaeth hon yn werth chweil, serch hynny, os yw’n ein galluogi i rannu gallu Duw ei hun i gryfhau ac annog y blinedig.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Duw Dad, am yr amseroedd pan rydym wedi blino ac wedi derbyn gair o gynhaliaeth gennyt ti. Helpa fi i wrando’n ofalus arnat ti, fel y gallwn drosglwyddo dy gryfder i eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible