No themes applied yet
Gwas yr ARGLWYDD
1Gwrandwch arna i, ynysoedd!
Daliwch sylw, chi bobloedd o bell:
Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni;
rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn iʼn dal yng nghroth fy mam.
2Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog,
a chuddiodd fi dan gysgod ei law.
Gwnaeth fi fel saeth loyw,
a chuddiodd fi yn ei gawell.
3Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i,
Israel, y caf fy anrhydeddu drwyddi.”
4Meddyliais fy mod wedi gweithioʼn galed i ddim byd,
a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas.
Ond mae fy achos yn llawʼr ARGLWYDD,
a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
5Nawr, maeʼr ARGLWYDD,
wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo,
yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob
a dod ag Israel yn ôl atoʼi hun.
Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD,
am mai Duw syʼn fy nerthu i.
6Yna dwedodd, “Maeʼn beth rhy fach i ti fod yn was i mi
dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed
ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
Bydda iʼn dy wneud di yn olau iʼr cenhedloedd,
er mwyn i bobl o ben drawʼr byd gael eu hachub.”
7Dyma maeʼr ARGLWYDD syʼn rhyddhau Israel – yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un syʼn cael ei dirmygu; wrth genedl syʼn cael ei ffieiddio, a gwas y rhai syʼn llywodraethu:
“Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed,
a bydd tywysogion yn ymgrymu,
am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon,
Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
Adfer Jerwsalem
8Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydda iʼn dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn,
ac yn dy helpu di pan ddawʼr dydd i mi achub.
Fi sydd wedi dy siapio di,
a dy benodi diʼn ganolwr fy ymrwymiad iʼr bobl –
bydda iʼn adfer y wlad,
ac yn rhoiʼr hawliau ar y tir yn ôl iʼw phobl.
9Byddiʼn dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd’,
ac wrth y rhai sydd yn y tywyllwch, ‘Dewch iʼr golwg’.
Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd,
ac yn cael porfa ar lethrauʼr bryniau.
10Fydd dim syched nac eisiau bwyd arnyn nhw;
fydd y gwynt poeth aʼr haul ddim yn eu taro nhw.
Achos bydd yr un syʼn eu caru nhw yn eu harwain,
ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.
11Bydda iʼn gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored,
ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”
12Edrychwch! Mae rhaiʼn dod o bell.
Edrychwch! Mae rhaiʼn dod oʼr gogledd,
eraill oʼr gorllewin, a rhai o wlad Sinim.
13Cân, nefoedd, a dathla, ddaear!
Torrwch allan i ganuʼn llawen, fynyddoedd!
Achos maeʼr ARGLWYDD wedi cysuroʼi bobl,
ac wedi tosturio wrth y rhai fuʼn dioddef.
14“Dwedodd Seion, ‘Maeʼr ARGLWYDD wedi troi cefn arna i;
mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’
15Ydy gwraig yn gallu anghofioʼr babi ar ei bron?
Ydy hiʼn gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn?
Hyd yn oed petaen nhwʼn anghofio,
fyddwn iʼn sicr ddim yn dy anghofio di!
16Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo!
Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
17Bydd dy adeiladwyr yn gweithioʼn gyflymach
naʼr rhai wnaeth dy ddinistrio di;
maeʼr rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
18Edrych o dy gwmpas!
Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhwʼn dod atat ti!
Mor sicr âʼr ffaith fy mod iʼn fyw,”
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn,
“byddi diʼn eu gwisgo nhw fel gemau,
ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.
19Er dy fod wedi dy daro,
dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad,
bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti,
a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.
20Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled
yn dweud yn dy glyw di,
‘Mae hiʼn rhy gyfyng yn y lle yma;
symudwch i wneud lle i ni!’
21A byddi diʼn meddwl i ti dy hun,
‘Pwy gafodd y plant yma i mi?
Rôn iʼn weddw ac yn methu cael plant.
Rôn wedi cael fy ngwrthod aʼm gadael –
felly pwy fagodd y rhain?
Rôn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun –
felly o ble daeth y rhain i gyd?’”
22Dyma maeʼr Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
“Dw iʼn gwneud arwydd i alwʼr cenhedloedd,
ac yn codi fy maner iʼr bobloedd.
Byddan nhwʼn cario dy feibion yn eu côl,
a dy ferched ar eu hysgwyddau.
23Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti,
a breninesau yn famau maeth.
Byddan nhwʼn plygu oʼth flaen aʼu hwynebau ar lawr,
ac yn llyfuʼr llwch wrth dy draed di.
A byddi diʼn deall mai fi ydyʼr ARGLWYDD –
fydd y rhai sydd âʼu gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.
24Ydyʼn bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr,
neu ryddhau caethion o law gormeswr?”
25Wel, dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr,
ac ysbail yn cael ei dwyn oddi ar ormeswr;
Bydda iʼn ymladd gyda dy elynion di,
ac yn achub dy blant di.
26Bydda iʼn gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain;
byddan nhwʼn meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys.
A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod
mai fi ydyʼr ARGLWYDD syʼn dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd –
Un Cryf Jacob!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015