No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn cywiroʼi bobl
1Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –
chi syʼn cael eich galw wrth yr enw ‘Israel’
ac yn ddisgynyddion i Jwda,
syʼn tyngu i enwʼr ARGLWYDD
ac yn galw ar Dduw Israel –
ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
2(Maen nhwʼn galw eu hunain yn ‘bobl y ddinas sanctaidd’,
ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,
sef yr ARGLWYDD hollbwerus):
3“Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddaiʼn digwydd;
dwedais yn glir i bawb glywed.
Ynaʼn sydyn gweithredais, a dyma nhwʼn digwydd.
4Rôn iʼn gwybod mor benstiff wyt ti –
mae gewynnau dy wddf fel haearn
a dy dalcen yn galed fel pres.
5Dyna pam wnes i roi gwybod i tiʼn bell yn ôl,
a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –
rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,
fy eilun aʼm delw metel wnaeth ei drefnu.’
6Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,
pam wnei di ddim cydnabod y peth?
A nawr dw iʼn mynd i ddweud pethau newydd,
pethau cudd allet ti ddim eu gwybod oʼr blaen
7pethau newydd sbon, ddim oʼr gorffennol.
Ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,
rhag i ti ddweud, ‘Rôn iʼn gwybod hynny!’
8Ti ddim wedi clywed, a ti ddim yn gwybod;
allet ti ddim bod wedi clywed hyn oʼr blaen.
Er fy mod iʼn gwybod dy fod tiʼn twyllo
ac yn cael dy alwʼn rebel ers i ti gael dy eni,
9dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da
a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;
dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
10Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;
dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
11Er fy mwyn fy hun yn unig dw iʼn gwneud hyn –
pam ddylai fy enw da gael ei halogi?
Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
Rhyddhau Israel
12Gwrandwch arna i, bobl Jacob,
ac Israel, y rhai dw i wediʼu galw:
Fi ydy e – fi ydyʼr cyntaf,
a fi ydyʼr olaf hefyd.
13Gosodais sylfeiniʼr ddaear gydaʼm dwylo fy hun,
a lleduʼr awyr gydaʼm llaw dde.
Dw iʼn eu galw nhw,
ac maen nhwʼn sefyll gydaʼi gilydd.
14‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!
Pa un oʼch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –
y bydd ffrind48:14 ffrind Cyfeiriad at Cyrus (gw. 44:28; 45:1). yr ARGLWYDD
yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,
ac yn defnyddioʼi holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’48:14,20 Caldea Hen enw ar wlad Babilon.
15Fi ddwedodd! Fi alwodd e.
Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16Dewch ata i yma i glywed hyn:
‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;
a phan maeʼn digwydd dw i yna.’”
Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,
wedi fy anfon i gydaʼi ysbryd.
17Dyma maeʼr ARGLWYDD syʼn dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:
“Fi ydyʼr ARGLWYDD dy Dduw,
syʼn dy ddysgu di er dy les,
ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
18O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!
Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,
a dy gyfiawnder fel tonnauʼr môr.
19Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,
a plant mor niferus âʼr gronynnau o dywod.
Fyddai eu henw nhw ddim wediʼi dorri i ffwrdd
aʼi ddileu oʼm gŵydd i.
20Ewch allan ar frys o Babilon,
dianc oddi wrth bobl Caldea!
Dwedwch beth syʼn digwydd a gweiddiʼn llawen.
Cyhoeddwch y peth!
Anfonwch y neges i ben drawʼr byd!
Dwedwch: ‘Maeʼr ARGLWYDD wedi gollwng
ei was Jacob yn rhydd!
21Wnaethon nhw ddim profi syched,
er iddo eu harwain nhw drwyʼr anialwch.
Gwnaeth i ddŵr lifo oʼr graig iddyn nhw;
holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’
22Does dim heddwch i bobl ddrwg.”48:22 Eseia 57:21
–yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015