Skip to main content

‘Dewch ata i yma i glywed hyn’: Eseia 48 (15 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 48

‘Clywch… Gwelwch… Gwrandewch arnaf… Dewch ata i yma i glywed hyn!’ Mae Eseia 48 yn gri torcalonnus o rwystredigaeth gan Dduw sydd wedi siarad yn agored â’i bobl, ac eto maent yn gweithredu fel petaent yn fyddar ac yn ddall i’r holl arwyddion clir o’i ymrwymiad iddynt. Oherwydd nad ydynt yn talu sylw iddo, nid yw’r da y mae’n dyheu am ei wneud drostynt yn digwydd. Yn lle hynny, rydym yn darllen y geiriau trist a lleddf ‘byddai wedi bod’ - ‘byddai dy heddwch yn llifo fel afon… byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod’ (adnodau 18-19).

Mynegodd Iesu emosiwn tebyg ganrifoedd yn ddiweddarach yn un o’i wrthdaron niferus gyda’r Phariseaid: ‘“O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb!’ (Luc 13.34). 

A oes unrhyw feysydd o’n bywydau lle mae Duw yn ymbil â ni i ddod yn agos a gwrando arno, ond ein bod ninnau’n cau ein clustiau a’n llygaid iddo yn fwriadol? Mae popeth y mae’n gofyn inni ei wneud, ym mhob man ble y mae’n gofyn inni ei ddilyn, er ein lles, ac mae’n dyheu am roi heddwch a chyfanrwydd inni. Weithiau mae’n anodd torri trwy ein gwrthwynebiad ein hunain i Dduw, beth bynnag yw’r rheswm drosto, ond bydd bendith inni bob amser pan fyddwn yn gwneud hynny. 

 

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Dduw, crëwr a chysurwr, diolch dy fod bob amser yn siarad. Helpa ni i wrando, i gydnabod dy arweiniad, ac i weithredu yn unol â dy air i ni. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible