Skip to main content

Byw dan farn: Eseia 47.1–11 (14 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 47

Mae Israel i ddychwelyd adref o Fabilon diolch i weithred Duw trwy’r Brenin gorchfygol, Cyrus. Ond nid yw’r llechen yn lân. Hyd yn oed fel offeryn barn Duw ar Israel, bu i Babilon ymddwyn yn greulon: ‘Rôn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed’ (adnod 6). Bydd Babilon yn cael ei chosbi yn unol â hynny (adnod 11).

Mae’r berthynas rhwng rhagluniaeth ddwyfol a chyfrifoldeb dynol bob amser wedi creu penbleth i ddiwinyddion ac athronwyr. Weithiau mae’n arwain credinwyr i wneud pethau ofnadwy gan gredu eu bod yn cyflawni ewyllys Duw. Ond y wers yn y bennod hon yw nad yw hi byth yn iawn i fod yn ormesol neu’n greulon. Mae unrhyw un sy’n gwneud drwg o dan farn Duw, dim ots beth yw eu cymhellion na sut y gallasai eu gweithredodd ffitio i mewn i ‘gynllun’ ehangach.  

Felly mae Eseia 47 yn siarad am ein cyfrifoldeb personol. Mae hefyd yn rhybuddio pobl gyfoethog a phwerus rhag tybio y bydd pethau’n parhau fel y buont erioed: ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti’, dywed y proffwyd wrth Babilon (adnod 7). Na: mae barn yn dod, os nad yn y bywyd hwn yna yn y nesaf.  

Mae’r broffwydoliaeth hon yn ymwneud â Babilon, ond os mai dim ond am gwymp ymerodraeth hynafol y mae, prin ei bod yn werth ei darllen. Mae hefyd yn ymwneud â ni: mae Duw yn barnu pechod, pwy bynnag sy’n ei gyflawni a beth bynnag fo’u rhesymau, ac nid yw pŵer a chyfoeth yn amddiffyniad rhagddo. Rydym i gyd yn dibynnu ar ei drugaredd.

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos i mi fy meiau; helpa fi i weld fy hun fel yr wyf mewn gwirionedd, ac yn i beidio â bod yn falch ond i ymddiried yn dy drugaredd. Maddau imi ac adfer fi, gweddïaf.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible