Skip to main content

Teml yr Ysbryd Glân: Sechareia 4.1–14 (16 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 4.1–14

Mae gweledigaethau’r proffwyd yn parhau. Mae yna ganhwyllbren cywrain sy’n symbol o ddoethineb a nerth Duw, ac mae’r ddwy ochr iddo yn ddwy goeden olewydd, arwydd o ffrwythlondeb. Mae’r rhain yn cynrychioli Jehoshwa yr Archoffeiriad a Serwbabel, sy’n gweithio gyda Nehemia i ailadeiladu’r Deml. Penodwyd Serwbabel yn llywodraethwr Jwda gan y Persiaid oedd yn rheoli, ond roedd yn ŵyr i’r Brenin alltud Jehoiacim (2 Brenhinoedd 24.8-17) ac felly’n un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd. Rhwng y ddau ohonynt maent yn cynrychioli gobaith cenedl yn cael ei hadfer – ond mae hyder Sechareia wedi cael ei gymedroli gan realaeth. Nid yw’n proffwydo dymchweliad y Persiaid nerthol, ond llywodraeth o fath gwahanol. ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i’ (adnod 6).

Fe ddaw gogoniant i Jehoiacim a Serwbabel gydag ailadeiladu’r Deml; wrth iddynt roi’r garreg olaf yn ei lle, mae’r bobl yn gweiddi ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’. Gall fod yn demtasiwn mawr mynd yn ôl i ddyddiau’r gogoniant pan oedd popeth yn well. Rydym ninnau hefyd yn sefyll yng ngoleuni Duw, serch hynny. Beth mae o’n ei ddangos i ni heddiw, a sut allwn ni fod yn ffrwythlon? Dim ond ‘drwy fy ysbryd’ - talu sylw gofalus i flaenoriaethau Duw, ac adeiladu teml ei Ysbryd Glân (Effesiaid 2.20-22).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i edrych yn ôl a dysgu; a helpa fi i edrych ymlaen a gobeithio. Paid gadael imi gael fy nghadwyno gan yr hyn a fu, a gad imi ymddiried yn dy ddyfodol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible