No themes applied yet
Gweledigaeth 5 – Y Menora
1Wedyn dymaʼr angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl aʼm hysgwyd, fel petaiʼn deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. 2Gofynnodd i mi, “Beth wyt tiʼn weld?” A dyma fiʼn ateb, “Menora4:2 Menora Stand i ddal lampau, neu ganhwyllbren saith cangen fel yr un oedd yn y Tabernacl aʼr Deml (gw. Exodus 25:30-36). o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw. 3Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr iʼr powlen.”
4A dyma fiʼn gofyn iʼr angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydyʼr rhain, syr?”4:4 “Beth ydyʼr rhain, syr?” Maeʼr ateb yn cael ei roi yn adn. 10b-14. 5“Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddaiʼr angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.
6Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel:4:6 Serwbabel Llywodraethwr Jwda (gw. Haggai 1:1).4:6 Esra 5:2 ‘Nid grym na chryfder syʼn llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna maeʼr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. 7Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd eʼn dod âʼr garreg olaf iʼw gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Maeʼn hyfryd! Maeʼn hyfryd!’”
8Yna dymaʼr ARGLWYDD yn rhoiʼr neges yma i mi: 9“Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd eʼn gorffen y gwaith.” Byddwch chiʼn gwybod wedyn maiʼr ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 10“Pwy wnaeth ddirmyguʼr dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg âʼr plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly maeʼr saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, syʼn gwylio popeth syʼn digwydd ar wyneb y ddaear.”
11A dyma fiʼn gofyn iʼr angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr iʼr menora?” 12A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad iʼr coed olewydd syʼn tywallt olew euraid iʼr sianeli?” 13“Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. 14A dyma feʼn dweud, “Maen nhwʼn cynrychioliʼr ddau ddyn sydd wediʼu heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015